Coginio yw un o brif achosion tanau gartref, neu danau damweiniol mewn anheddau. Dyma rai awgrymiadau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i’ch helpu chi i wneud eich cegin yn lle mwy diogel:

  1. Gofalwch fod gennych larwm mwg sy’n gweithio a phrofwch e’n rheolaidd. Gallwch weld ein canllaw ar larymau mwg yn cadw sŵn.
  2. Peidiwch byth â gadael coginio heb oruchwyliaeth.
  3. Peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain yn y gegin wrth goginio. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw matsis a dolenni sosbenni o’u cyrraedd.
  4. Gofalwch nad yw dolenni sosbenni’n sticio allan – felly gellir osgoi eu taro oddi ar y stof.
  5. Cadwch dywelion sychu llestri, clytiau a dillad i ffwrdd o’r stof a’r hob, ac allan o gyrraedd gwres a fflamau.
  6. Cadwch offer trydanol (ceblau a chyfarpar) yn bell o ddŵr.
  7. Lle y bo modd, defnyddiwch ddyfeisiau cynnau tân yn lle matsis neu danwyr i gynnau stofiau nwy, i osgoi fflamau noeth.
  8. Gall olew poeth danio’n hawdd, defnyddio fferïwr braster dwfn a reolir gan thermostat – maen nhw’n atal y braster rhag mynd yn rhy boeth.
  9. Peidiwch â llenwi padell sglodion neu fferïwr braster dwfn arall sy’n fwy na thraean yn llawn olew.
  10. Peidiwch byth â mynd i’r afael â thân padell eich hun. Os yw padell yn mynd ar dân, peidiwch byth â defnyddio dŵr arno.
  11. Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol neu’n cymryd meddyginiaeth a allai wneud i chi deimlo’n gysglyd neu’n flinedig.
  12. Gwnewch yn siŵr fod y popty wedi’i ddiffodd ar ôl i chi orffen coginio. Cymerwch ofal gydag offer trydanol.
  13. Cadwch y popty, yr hob a’r gril yn lân ac yn weithredol. Gall haenau o fraster a saim gynnau tân.
  14. Os bydd tân yn eich cegin, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Diogelwch coginio yn y gegin gyda’r Diffoddwr Tân White

Diogelwch coginio 1: awgrymiadau cyffredinol

Diogelwch coginio 2: tynnu sylw ac awgrymiadau glanhau

Diogelwch coginio 3: awgrymiadau ffrio mwy diogel

Hefyd, edrychwch ar ein hawgrymiadau am ddiogelwch trydanol, yn enwedig os oes gennych chi nwyddau gwyn fel peiriannau golchi, sychwyr dillad a pheiriannau golchi llestri yn eich cegin neu ystafell amlbwrpas.

Gellir gweld mwy o gynghorion diogelwch tân gartref.

Lawr lwythwch ein Rhestr Wirio Cadwch Diogel yn y Gegin.

Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein prawf hunanasesu diogelwch cartref i weld pa mor ddiogel ydych chi gartref? Cymerwch y prawf nawr.