Mae 13eg o Hydref yn nodi Diwrnod Cenedlaethol Llosgiadau; Mae atal a chymorth cyntaf da yn allweddol i leihau nifer y llosgiadau a’r sgaldiadau sy’n digwydd yn y DU bob dydd.

 

Mae anaf llosgi yn para am oes. Gall llosgiadau neu sgaldiadau arwain at flynyddoedd o driniaethau poenus ac, yn yr achosion gwaethaf, gannoedd o lawdriniaethau i ryddhau’r feinwe greithiog. Yr hyn nad yw llawer o bobl yn ei wybod yw mai plant a’r henoed yw’r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae mwyafrif yr anafiadau’n digwydd o ganlyniad i ddamwain y gellid mor hawdd ei hatal.

 

Mae Ymddiriedolaeth CB wedi creu’r awgrymiadau defnyddiol hyn ar sut i gadw’n ddiogel os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl o llosg.

Canllawiau Diogelwch yn y Cartref

 

RHAID

Gosod larymau mwg ar bob llawr a’u profi’n gyson

Cadw diodydd poeth allan o gyrraedd babanod a phlant ifanc

Llunio ac ymarfer Cynlluniau Dianc Rhag Tân gyda’r teulu cyfan

Rhoi dŵr OER yn y bath neu’r sinc yn gyntaf, cyn ychwanegu dŵr poeth – profwch y tymheredd

Gosod falfiau cymysgu thermostatig ym mhob allfa dŵr poeth

Cadw sosbenni ar gefn y stôf NID yn y tu blaen – sicrhewch fod y dolenni’n wynebu cefn y stôf

Cadw tegellau, haearnau smwddio, sythwyr gwallt neu wifrau allan o gyrraedd

Cadw sgriniau tân diogel o flaen tanau agored, gwresogyddion a rheiddiaduron

Cadw matsis a thanwyr allan o gyrraedd

Storio cemegau, glanhawyr ac asidau allan o gyrraedd

 

PEIDIWCH

Yfed diodydd poeth wrth nyrsio/dal babi neu blentyn

Rhoi babi neu blentyn mewn bath neu sinc nes bod y dŵr wedi’i brofi

Cynhesu poteli bwydo babis yn y ficrodon

Gadael sythwyr gwallt heb oruchwyliaeth

Caniatáu i blant fynd yn agos at farbeciw neu gemegau gardd

Caniatáu i blant fynd yn agos at dân gwyllt

Gadael plant heb oruchwyliaeth yn y gegin, yr ystafell ymolchi neu yn ymyl tanau a gwresogyddion

 

Mae atal llosgiadau o ganlyniad i ddiodydd poeth yn hawdd o ddefnyddio rheolau PanedDibryder syml:

Cadwch ddiodydd poeth allan o gyrraedd plant ifanc

Peidiwch byth â chario diod boeth wrth gario babi

Peidiwch byth ag estyn diod boeth uwchben plant ifanc

 

Sut i gadw diodydd poeth o gyrraedd plant:

Rhowch ddiodydd poeth tuag at gefn wynebau gwaith ceginau

Peidiwch â rhoi diod boeth ar liain bwrdd neu lieiniau eraill sy’n hongian i lawr o fewn cyrraedd plant bach a’u tynnu

Gwnewch le diogel… ardal PanedDibryder i ddiodydd poeth… yn eich cartref lle gallwch chi ac aelodau’r teulu ac ymwelwyr gadw diodydd poeth o gyrraedd plant bach

Peidiwch yfed diodydd poeth pan fydd plant bach o gwmpas

Atgoffwch ymwelwyr â’ch cartref bob amser i ‘Gadw diodydd poeth allan o gyrraedd plant ifanc’

 

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i – www.cbtrust.org.uk