Mae gwasanaethau tân ac achub Cymreig fel ninnau yn darparu rhaglen o fentrau diogelwch ar y ffyrdd i helpu lleihau’r Pump Marwol – y ffactor mwyaf arwyddocaol sy’n arwain at farwolaeth ac anaf difrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru.

 

Gweithredir mentrau diogelwch ar y Ffyrdd tân ac achub gan staff sy’n bwrpasol i ddiogelwch ar y ffyrdd, yn gweithio law yn llaw â phartneriaid i addysgu gyrwyr o effeithiau’r Pump Marwol, ac un o blith y rhain yw goryrru.

 

Ar yr 17eg o Fedi 2023, cafodd mwyafrif y ffyrdd terfyn cyflymdra 30mya mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae goleuadau stryd eu haltro i derfyn cyflymdra o 20mya.

Mae gwasanaethau tân ac achub Cymreig yn gweithio law yn llaw â GanBwyll, lluoedd heddlu Cymreig a phartneriaid eraill ar agwedd sydd â chanolbwynt at ymgysylltu i’r terfyn cyflymdra newydd. Ar Ddydd Llun, yr 8fed o Ionawr 2024, lansiwyd ‘Ymgyrch Ugain’ i ddarparu ymgysylltu ar ochr y ffordd ledled Cymru.

 

Drwy law Ymgyrch Ugain, lle adnabyddir gyrwyr sy’n teithio ar gyflymdra sydd dros y terfyn cyflymdra gan yr Heddlu, gall timau diogelwch ar y ffyrdd y gwasanaethau tân ac achub Cymreig ddarparu cyngor ymgysylltu ar ochr y ffordd fel dewis arall i bwyntiau cosb neu ddirwy. Os bydd gyrwyr yn dewis yr ymgysylltiad, bydd ein timau’n darparu cyflwyniad 10 munud yn rhad ac am ddim. Ei fwriad yw hysbysu pobl o’r newid yn y terfyn cyflymdra diofyn, y rhesymau y tu ôl i’r newid a sut fydd modd iddynt adnabod y ffyrdd lle mae’n gymwys.

 

Mae gwasanaethau tân ac achub Cymreig hefyd yn cefnogi’r fenter, gan ddylai helpu lleihau gwrthdrawiadau traffig difrifol ar ein ffyrdd, gostwng anafiadau a marwolaethau ymysg ein  cymunedau, ac wedyn cynyddu diogelwch seicolegol ein Diffoddwyr Tân, gan fyddant yn mynychu digwyddiadau llai trawmatig.

 

Ymwelwch â’r wedudalen Ymgyrch Ugain GanBwyll am fwy o wybodaeth a diweddariadau.