Darganfyddwch pa mor ddiogel ydych chi gartref.  

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnwys deg Awdurdod Lleol yn Ne Cymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Gallwch wirio’ch Awdurdod Lleol yma.

Os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hyn, cymerwch ein prawf cyflym a hawdd!

Self Assessment Welsh

Rhowch eich cod post. Bydd hyn yn ein helpu i wirio eich bod yn ein dalgylch. Gweld ein Polisi Preifatrwydd

Cwestiwn 0.

1 Rhybuddio/cael cymorth mewn achos o dân.

Cofiwch os bydd tân ffoniwch 999

Cwestiwn 1.
Oes larymau mwg gweithredol gyda chi?

Note: Os nad oes larymau mwg gweithredol gyda chi, byddem yn eich cynghori ar ddiwedd y prawf #ProfwcheDdyddMawrth

2 Coginio’n Ddiogel

Cwestiwn 2.
Oes rhywun yn eich cartref sy’n coginio ar ôl yfed?
Oes rhywun yn eich cartref sy’n defnyddio padell sglodion?
Oes haenau o fraster, olew neu saim ar eich ffwrn, gril, microdon neu wyntyll echdynnu?
Ydy eich tostiwr neu’ch tegell dan gwpwrdd neu silff ar wal y gegin?

3Ysmygu’n Ddiogel

Cwestiwn 3.
Oes rhywun yn eich cartef sy’n ysmygu?
Ydyn nhw’n ysmygu yn y gwely?

I gael gwybodaeth ar sut i roi'r gorau i ysmygu, ewch i: https://www.helpafiistopio.cymru/

4Diogelwch o gwmpas Trydan

Cwestiwn 4.
Ydych chi’n diffodd eitemau trydanol a phlygiau cyn noswylio?
Ydych chi’n gwefru ffonau symudol, tabledi, gliniaduron, e-sigaréts neu’n gadael teclynnau puro’r awyr ymlaen dros nos neu ar adegau nad ydych chi yn y tŷ?
Ydych chi’n gadael y peiriant golchi, peiriant sychu dillad neu’r peiriant golchi llestri ymlaen dros nos neu ar adegau pan nad ydych chi yn y tŷ?
Ydych chi’n defnyddio ceblau ymestyn?

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch o gwmpas Trydan ewch i: https://www.electricalsafetyfirst.org.uk

5Gwresogi’ch Cartref yn Ddiogel

Cwestiwn 5.
Oes gwyntyll neu wresogydd ceramig, nwy neu baraffîn gyda chi?
Ydych chi’n sychu dillad ar ben gwresogyddion neu o flaen gwresogyddion neu dân agored?
Ydych chi’n defnyddio stof sy’n llosgi coed neu dân glo agored?
Ydy’ch simnai’n cael ei glanhau’n rheolaidd?

6Defnyddio Canhwyllau’n Ddiogel

Cwestiwn 6.
Ydych chi’n defnyddio canhwyllau persawrus, llosgwyr olew neu ffyn arogldarth?

7Oes Trefn Wirio cyn Noswylio gyda chi?

Cwestiwn 7.
Oes cynllun dianc gyda chi, fel bod pawb yn y tŷ yn gwybod beth i'w wneud os bydd y larwm mwg yn canu yn ystod y nos? Ydy cynteddau, grisiau a phen grisiau yn cael eu cadw'n ddigon clir i alluogi dianc yn ddiogel a hawdd? A fyddai pobl yn eich cartref yn gallu dianc drwy bob drws allanfa a heb orfod chwilio am allwedd?

8Oes Cynllun Dianc gyda chi os bydd Tân?

Cwestiwn 8.
A oes gan unrhyw un anawsterau symudedd ac angen cymorth i adael y cartref os bydd tân?
Oes gan unrhyw un salwch meddwl neu angen cymorth i adael y cartref mewn achos o dân?
Oes unrhyw un yn cymryd meddyginiaeth a fyddai'n eu hatal rhag clywed larwm mwg?
Oes gan unrhyw un nam ar y clyw a fyddai'n eu hatal rhag cael eu deffro gan larwm mwg?
Oes gan unrhyw un nam ar ei olwg fel na fyddai'n gallu dianc mewn achos o dân?
Oes unrhyw un yn yfed alcohol neu'n cymryd cyffuriau cymdeithasol a fyddai'n eu hatal rhag clywed larwm mwg?

9Oes Pobl yn eich Cartref

Cwestiwn 9.
Ydych chi’n byw ar ben eich hun?
Oes rhywun yn eich cartref dan 5 oed?
Oes rhywun yn eich cartref dros 65 oed?
Oes rhywun yn yr eiddo sy’n defnyddio ocsigen gartref (er engraifft ar gyfer dibenion meddygol)?

I gael mwy o wybodaeth am Atal Cwympo yn y Cartref ewch i: https://www.ageuk.org.uk/information-advice/health-wellbeing/fitness/falls-prevention/

10Tanau Blaenorol

Cwestiwn 10.
Ydych chi wedi cael tân bach neu fawr yn eich cartref?