Mae’n ddyletswydd ar yr unigolyn cyfrifol i gyflawni ac adolygu asesiad risg tân o’r safle’n rheolaidd. Bydd hyn yn amlygu beth sydd angen i chi ei wneud i atal tân a chadw pobl yn ddiogel. Rhaid i chi gadw cofnod ysgrifenedig o’ch Asesiad Risg Tân os yw’ch busnes yn cynnwys 5 neu fwy o bobl.

Cyflawni’r Asesiad

Dilynwch ein proses pum cam syml:

  1. Amlygu’r peryglon tân.
  2. Amlygu’r bobl mewn risg.
  3. Gwerthuso, gwaredu neu leihau’r risgiau.
  4. Cofnodi eich canfyddiadau, paratoi cynllun mewn argyfwng, a darparu hyfforddiant.
  5. Adolygu a diweddaru’r Asesiad Risg Tân yn rheolaidd.

Mae’r siart Asesiad Risg Diogelwch Tân yn rhoi gwybodaeth fanylach am y camau hyn.

Bydd angen i chi ystyried:

  • Llwybrau ac allanfeydd mewn argyfwng
  • Systemau canfod tân a rhybuddio
  • Offer ymladd tân
  • Gwaredu sylweddau peryglus neu eu storio’n ddiogel
  • Cynllun gadael mewn argyfwng tân
  • Anghenion pobl sy’n agored i niwed, er enghraifft, yr henoed, plant ifanc, neu’r rheiny ag anableddau
  • Darparu gwybodaeth i weithwyr a phobl eraill ar y safle
  • Hyfforddiant diogelwch tân staff

Help gydag asesu

Gallwch gwblhau Asesiad Risg Tân eich hun, gyda help canllawiau asesu risg diogelwch tân. Gallwch ddefnyddio’r llyfryn Asesu Risg Tân fel templed i gofnodi eich Asesiad Risg Tân.

Os nad oes gennych chi’r arbenigedd na’r amser i gwblhau’r Asesiad Risg Tân, bydd angen i chi benodi asesydd risg tân ‘cymwys’ i helpu. I gael arweiniad ar ddewis aseswr risg tân cymwys, cyfeiriwch at y canllaw isod.

 

 

Cyngor pellach

Gallwch lawrlwytho’r canllawiau canlynol o’n hadran cyngor, dogfennau ac adnoddau i’w lawrlwytho.

Hefyd, cewch arweiniad ar: