Mae ein Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gweithio i leihau cynnau tanau bwriadol o fewn y gymuned tra’n hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a gweithio â phartneriaid.

Mae ein Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn cynnwys nifer o ymarferwyr Trosedd Tanau sy’n gweithio ar draws y 10 Uned Awdurdodol rydym yn eu gwasanaethu.

Maent yn gyfrifol am:

  • Batrolau

Mae defnyddio patrolau a welir yn amlwg o fewn y gymuned yn dacteg a ddefnyddir yn rheolaidd gan lawer o’n partneriaid. Erbyn hyn mae GTADC hefyd yn defnyddio patrolau i atal y rhai sy’n ystyried cyflawni llosgi bwriadol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn ogystal â phresenoldeb amlwg iawn ein cerbydau, defnyddir beiciau i sicrhau ein bod ni’n gallu mynd i’r mannau hynny sydd allan o gyrraedd ein cerbydau. Cynhelir patrolau gan staff ein Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ac maent yn rhoi cyngor a sicrwydd i gymunedau lle mae pryderon am losgi bwriadol. Mae’r tactegau newydd hyn yn gyfleoedd gwerthfawr i ni ymgysylltu â’r cyhoedd.

  • Asesiadau Mannau sy Mewn Perygl o Losgi Bwriadol

All adeiladau gwag gynnig cyfleoedd i gynnal gweithgareddau anghyfreithlon a thresbasu. Er bod yr eiddo’n wag ac wedi’i esgeuluso yn aml, mae e dal i fod yn risg i’r ardaloedd o’i gwmpas. Dylid clirio’r holll eitemau peryglus ac enbydus, e.e. silindrau LPG a chemegau, o’r safleoedd hyn.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cyflwyno asesiadau i fannau sy mewn perygl o losgi bwriadol yn dilyn tân mewn safle neu adeilad neu ar ôl cynnal arolwg arferol o’r ardal. Bydd ein staff yn nodi materion a all effeithio ar ddiogelwch ymladd tanau. Anfonir y wybodaeth hon ymlaen at ein Hadran Ddiogelwch a’n Hadran Rheoli Tân.

  • Dychwelyd Silindarau

Gall silindrau gwag neu adawedig fod yn beryglus i’r cyhoedd ac i ymladdwyr tân. Bydd yr Uned Lleihau Llosgi Bwriadol yn sicrhau bod pob silindr gwag neu adawedig a adroddwyd i ni yn cael ei symud i ffwrdd.

  • Diogelu

Mae dod yn gynyddol amlwg bod cysylltiad pendant rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig. Mae’r Uned Lleihau Llosgi Bwriadol’n gweithio’n agos â phartneriaid o fewn yr Heddlu a’r Awdurdodau lleol i sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Gall hyn gynnwys gosod platiau dros flychau llythyrau, larymau mwg ychwanegol a chymorth, os bydd angen, i greu ‘ystafell ddiogel.’

Mae mynychu Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg yn sicrhau ein bod ni’n cydweithio ag asiantaethau partner a bod Ymarferwyr yr Uned Troseddau Tanau yn gallu trefnu ymweld ag eiddo os bydd achos trais domestig brys yn cael ei nodi. Mae hefyd broses gyfeirio sy’n golygu bod asiantaethau yn gallu cyfeirio dioddefwyr i’r Uned Lleihau Llosgi Bwriadol os oes sail i gredu eu bod mewn perygl posib o ddioddef llosgi bwriadol. Bydd Ymarferwyr Trosedd Tanau wedyn yn cysylltu â’r dioddefwyr i drefnu ymweliadau.

Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ynghylch materion yn ymwneud â thrais domestig a throsedd casineb a sut mae’r rhain yn effeithio ar ein sefydliad a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau.

  • Gweithgareddau tymhorol

Rhan sylweddol o rôl Ymarferwr Trosedd Tanau yw cynllunio a pharatoi ar gyfer gwahanol gyfnodau yn ystod y flwyddyn lle bydd galw a risg yn cynyddu o bosib. Mae ymyrraeth gandddynt yn gallu cynnwys datblygu ymgyrchoedd diogelwch a digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd i rannu negeseuon diogelwch pwysig, neu sefydlu patrolau neu weithgareddau difyrru o fewn y gymuned i addysgu’r cyhoedd.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys ‘Ymgyrch Bernie’ a gynhaliwyd ar ddechrau ein blwyddyn gweithgareddau tymorol, gan gychwyn ym mis Mawrth ac yn para mewn rhai achosion hyd at yr haf. Mae’r cyfnod hwn yn cydfynd â’r tymor a elwir yn ‘Dymor Tanau Glaswellt’ lle gwelwn weithiau gynnydd sylweddol mewn cynnau tanau bwriadol mewn rhai ardaloedd lle mae pobl yn cynnau tanau glaswellt yn fwriadol. Mae ‘Ymgyrch Bang’ yn digwydd tua diwedd y flwyddyn, adeg Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc, pan welwn fwy o danau yn cael eu cynnal yn fwriadol yn aml, megis tanau sbwriel a choelcerthi.

  • Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch ni ar:

Arsonreduction@southwales-fire.gov.uk

Neu ffoniwch ni ar:

0800 731 72 87