Gellir gwella diogelwch eich eiddo busnes a’r bobl ynddo yn fawr drwy osod system synhwyro tân a larwm awtomatig. Pan gaiff ei osod, ei ddefnyddio a’i gynnal yn briodol, gall fod yn ffactor pwysig o ran lleihau’r perygl i fywyd a chyfyngu ar ddifrod i’ch eiddo, oherwydd ei ymateb cyflym wrth ganfod tân.  Yn anffodus, gall yr union nodweddion sy’n darparu’r ymateb cyflym hwn hefyd greu larymau ffug, o ffynonellau eraill, megis coginio, stêm, ysmygu, ac ati.

Beth yw larwm ffug?

Mae larwm ffug yn signal larwm tân o System Synhwyro Tân a Larwm Awtomatig, oherwydd achos heblaw tân gwirioneddol.

Pwy sy’n gyfrifol am leihau galwadau ffug?

Os taw chi yw’r ‘person cyfrifol’ mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i reoli mesurau diogelwch tân yn eich eiddo. Gall methu â gwneud hynny yn fedrus arwain at erlyniad o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Systemau Synhwyro a Larymau Tân awtomatig priodol wedi’u gosod (lle bo angen) a bod y safle, y cyfleusterau, y cyfarpar a’r dyfeisiau yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn rheolaidd a’u bod yn gweithio’n iawn er mwyn sicrhau diogelwch y bobl yn y safle. Rhaid i’r person cyfrifol hefyd, lle bo angen, enwebu person cymwys i weithredu’r mesurau hyn.

 

Effaith bosib galwadau ffug ar eich busnes

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn amcangyfrif bod cost galwadau ffug yn y DU tua £1,000,000,000 y flwyddyn. Mae llawer o’r gost hon yn deillio o golli cynnyrch ac ymyriadau mewn gweithgareddau busnes.

  • Amharu sylweddol ar effeithiolrwydd busnes, effeithlonrwydd, proffidioldeb a gwasanaethau.
  • Mae larymau ffug sy’n canu’n aml mewn adeilad yn gallu achosi i staff fod yn hunanfodlon ac yn llai parod i ymateb pan fydd y larwm tân yn canu mewn achos gwirioneddol.

 

Effaith galwadau ffug ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Mae galwadau ffug yn effeithio ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru drwy:

  • Dargyfeirio gwasanaethau hanfodol o argyfyngau go iawn (rhoi bywyd ac eiddo mewn perygl)
  • Risg ddiangen i griwiau tân a’r cyhoedd wrth ymateb i larymau ffug.
  • Tarfu ar weithgareddau lleihau risg (e.e. addysg, gwiriadau diogelwch yn y cartref, ymgysylltu â’r gymuned, arolygiadau ac ati).
  • Tarfu ar hyfforddiant personél gweithredol.
  • Yr effaith ar yr amgylchedd yn sgîl symudiadau diangen gan gerbydau (e.e. sŵn, allyriadau CO2, ac ati).
  • Defnyddio cyllid cyhoeddus

 

Sut allwch chi atal galwadau ffug?

Os yw eich system yn cael ei monitro, cyn profi neu wneud unrhyw waith cynnal a chadw ar eich System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig, rhaid i chi roi gwybod i’r Ganolfan sy’n derbyn larymau bod y profion a’r gwaith cynnal a chadw yn digwydd a’u hysbysu eto ar ôl ei gwblhau.

 

  • Sicrhau bod y contractwr a ddefnyddir i osod a/neu gynnal a chadw wedi’i ardystio gan drydydd parti, gan sicrhau cymhwysedd. Dylai hyn sicrhau bod y system wedi cael ei chynllunio a’i bod hi’n cael ei gwasanaethu’n briodol.
  • Ystyried amnewid synwyryddion ag un synhwyrydd am synwyryddion gydag aml-synwyryddion. Mae’r rhain yn gallu adnabod ffenomenau eraill (fel stêm) ac ni ddylent actifadu’r larwm yn ddiangen.
  • Defnyddio synwyryddion priodol wedi’u cymeradwyo a leolir yn gywir, gan sicrhau bod y system yn gweithredu’n gywir.
  • Ystyried ail-leoli unrhyw bennau synwyryddion neu fannau galw â llaw amhriodol os ydynt yn creu larymau ffug, yn dilyn cyngor gan asesydd risg tân cymwys
  • Defnyddio gorchuddion amddiffynnol sy’n cynnwys mannau galw â llaw wedi’u cymeradwyo gydag arwyddion a theledu cylch cyfyng lle bo angen.
  • Gwella rheoli contractwyr, sicrhau eu bod wedi cael eu hachredu gan drydydd parti ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir. Dylai hyn sicrhau bod y system yn cael ei chynnal a’i chadw’n fwy trwyadl yn ogystal â rhoi cyngor ac argymhellion da i chi.
  • Sicrhau y darperir hyfforddiant digonol i’r rhai a fydd yn cynnal profion wythnosol a gwiriadau cyfnodol.
  • Addysgu eich staff mewn perthynas â lleihau galwadau ffug

 

Hefyd, sicrhau:

 

  • Eich bod chi’n cysylltu â’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn syth (gan ddefnyddio 999) os byddwch chi’n canfod galwad ffug i atal y peiriannau tân rhag mynychu heb fod angen.
  • Bod eich Asesiad Risg Tân yn gyfredol ac yn adlewyrchu defnydd ac amodau presennol eich safle.
  • Bod y System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig wedi’i chynllunio, ei gosod a’i chomisiynu’n gywir a’i rheoli, ei phrofi a’i chynnal a’i chadw’n briodol
  • Bod achosion galwadau ffug yn cael eu harchwilio a bod camau unioni priodol yn digwydd lle y bo angen.
  • Bod larymau ffug yn cael eu cofnodi yn y llyfr log larymau tân ynghyd ag unrhyw gamau adferol a gymerir.
  • Bod eich gweithdrefnau’n cynnwys dynodi staff penodol sydd wedi cael hyfforddiant addas i wirio a oes tân go iawn ar gael pan fydd y larwm tân yn cael ei actifadu.
  • Bod personau cymwys yn cael eu penodi i gynorthwyo’r ymchwiliad i’r actifadu larymau. Dylent feddu ar ddealltwriaeth o’r system larwm a bod yn hyderus o ran eu gallu i gynnal yr ymchwiliad.

 

Sut i ymchwilio i actifadu larwm yn ddiogel

Mae cael gweithdrefn ymchwilio effeithiol ar gyfer adegau pan fo’r System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig yn gallu cyfyngu ar y tarfu a achosir i’ch busnes gan larymau ffug.
Mae Systemau Synhwyro Tân a Larymau Awtomatig yn ardderchog o ran canfod tân yn y camau cynnar. Drwy gael strategaeth i ymchwilio i achos actifadu yn syth ar ôl iddo ddigwydd, gall eich staff nodi larymau ffug yn gyflym, ailosod y system a dychwelyd i’r gwaith
Os byddwch yn darganfod tân neu fwg fel rhan o’ch ymchwiliad, peidiwch â rhoi eich hun nac eraill mewn perygl. Ewch o’r lleoliad yn gyflym ac yn ddiogel, Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Dylech gysylltu â’ch asesydd risg tân mewn perthynas â’r uchod.
Ailosod y larymau
SYLWER: Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ailosod systemau synhwyro a larymau tân awtomatig. Gallai ailosod y system heb ymchwiliad priodol leihau effeithiolrwydd yr ymchwiliad dilynol i achos y ffug larwm gan beiriannydd cymwys.
Dylech gysylltu â’ch Asesydd Risg Tân mewn perthynas â’r uchod.

 

Ailosod larymau

Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ailosod Systemau Synhwyro a Larymau Tân Awtomatig. Gallai ailosod y system heb ymchwiliad priodol leihau effeithiolrwydd yr ymchwiliad dilynol i achos y ffug larwm gan beiriannydd cymwys.
Arweiniad pellach
Am gyngor ychwanegol ar leihau nifer y larymau ffug, cysylltwch â’ch asesydd risg tân a’ch cwmni cynnal a chadw larymau tân.

 

Gellir dod o hyd i gyngor ychwanegol ar y dolenni isod:

Dilynwch ein Tîm Diogelwch Tân i Fusnesau ar LinkedIn