Fel Gwasanaeth rydym yn cefnogi un o’r systemau diogelu bywyd gorau, sef gosod taenellwyr dŵr domestig.

Taenellwyr yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod tanau’n cael eu hatal neu hyd yn oed eu diffodd cyn y gall y Gwasanaeth Tân gyrraedd. Maent yn achub bywydau ac yn lleihau anafiadau, yn amddiffyn diffoddwyr tân sy’n mynychu digwyddiadau ac yn lleihau maint y difrod o ran eiddo a’r amgylchedd ill dau o ganlyniad i dân.

Amserlen “Taenellwyr”

Gall taenellwyr:

  • Lleihau marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân
  • Lleihau risg i ymladdwyr tân
  • Amddiffyn eiddo ac etifeddiaeth
  • Lleihau effeithiau llosgi bwriadol
  • Lleihau costau o ganlyniad i dân ac aflonyddwch yn y gymuned a busnesau
  • Mewn gwirionedd yn lleihau risg i fywyd!!

Canllaw i Ddeiliad Tai ar Systemau Chwistrellu

 

Rheoliadau: (2014) a gymhwysir ar gyfer adeiladau newydd ac adeiladau wedi’u trosi:

  • Cartrefi Gofal, fel y’u diffinnir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu, Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • Cartrefi Preswyl i Blant
  • Tai Llety
  • Neuaddau Preswyl
  • Hostelau (heblaw am hostelau sy’n cynnig llety dros ar gyfer gweithgareddau hamdden e.e. nid Hosteli Bobl ifanc neu warbacwyr)

 

Mae Rheoliadau Newydd 2016 hefyd yn gymwys ar gyfer:

  • Tai
  • Fflatiau
  • Unrhyw ddiben preswyl arall
  • Mae hyn yn gymwys ar gyfer unrhyw eiddo sy’n cael ei newid i lety preswyl felly:
  • Holl adeiladau gwneuthuriad Adeiladau Newydd
  • Adeiladau sydd eisioes yn bod (eiddo di-breswyl yn cael ei droi’n eiddo preswyl am y tro cyntaf)
  • O hyn ymlaen i gynnwys Tai/Fflatiau sy’n cael eu gosod dros y Gwyliau

 

Ni fydd y rheoliadau’n gymwys ar gyfer:

  • Ysbytai
  • Ysgolion
  • Gwestai
  • Carcharau
  • Carafanau preswyl

 

Mae’r rheoliadau newydd yn gymwys pan fydd gwaith adeiladu newydd yn creu annedd/anheddau newydd, neu mewn achos o newid defnydd er mwyn troi adeilad sydd eisoes yn bod yn annedd neu anheddau newydd.

Safonau systemau:

BS EN 12845:2015 (systemau masnachol)

BS 9251:2021 (adeiladau ar gyfer preswylwyr)

BS 8458:2015 (systemau anwedd dŵr ar gyfer preswylfeydd)

 

Dolenni defnyddiol: