Wrth i’r ffyrdd fynd yn fwy prysur, dyma ychydig o bwyntiau i’w cofio wrth yrru.

  • Gan fod mwy o bobl wedi dechrau beicio yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, bydd mwy o feicwyr ar y ffordd mewn llawer o ardaloedd. Cofiwch adael digon o le pan fyddwch yn goddiweddyd ac arhoswch nes bod bwlch addas ar gael. Gwyliwch ein fideo ar y dull ‘Dutch Reach’

  • Mae mesurau ymbellhau cymdeithasol dros dro yn golygu y gallai cynlluniau ffyrdd newid, er enghraifft lonydd beiciau dros dro, palmentydd estynedig, mannau parcio sy’n cael eu tynnu ac ati. Dylech gofio hyn wrth yrru.
  • Ydy’ch cerbyd yn ddiogel ac yn gyfreithlon? Efallai na fyddai rhai ohonom wedi defnyddio ein car ers tro. Ewch ag ef am dro, gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithredu i’r safon arferol a sicrhewch fod holl wiriadau cerbydau hanfodol P. O. D. D. T. R. H wedi’u cwblhau.

Gwiriad Hanfodol ar gyfer Cerbydau (P.O.D.D.T.R.H)

 

Petrol

  • Cadwch o leiaf chwarter llond tanc o betrol er mwyn sicrhau y byddwch yn cyrraedd pen eich taith.
  • Bydd hwn yn eich helpu i osgoi torri i lawr ar ffordd neu draffordd brysur gan roi eich hunan neu eraill mewn perygl o bosib.

 

Olew

  • Mae’n hanfodol eich bod chi’n cadw’r lefel briodol o olew i atal eich injan rhag cloi a thorri i lawr.

 

Dŵr

  • Gwnewch yn siwr bod lefel yr oerydd yn briodol.
  • Er mwyn sicrhau y gellir gweld yn glir bob tro, gwnewch yn siwr fod gyda chi ddigon o hylif golchi ffenestri blaen fel y gallwch glirio unrhyw sbwriel neu faw o’ch ffenest blaen.
  • Cadwch botelaid o ddŵr dan sêl yn eich cerbyd, rhag ofn argyfwng.

 

Difrod

  • Archwiliwch y cerbyd rhag ofn bod difrod, gan gynnwys llafnau sychwyr ffenest.

 

Gwaith trydan

  • Gwiriwch fod y goleuadau i gyd yn weithredol – maent yn hanfodol i chi; maent hefyd yn hanfodol i yrrwyr eraill ddeall sut rydych chi’n gyrru eich cerbyd ac i ba gyfeiriad y byddwch chi’n symud.

 

Rwber

  • Mae’n ofyniad cyfreithiol bod gwadnau 1.6mm o leiaf ar bob un o’ch teiars.
  • Yn y D.U rhaid bod gwadnau teiars beiciau modur o yn 1.0mm o leiaf. Archwiliwch ddwy wal pob teiar i wneud yn siwr nad oes dim craciau yn dechrau o ganlyniad i ddefnydd anaml neu fynd yn hen.
  • Gallech gael dirwy o £2,500 a 3 phwynt cosb ar gyfer pob teiar os ydy eich teiars yn anghyfreithlon
  • Gall gyrru gyda llai neu fwy o wynt yn eich teiars effeithio’n andwyol ar bellter brecio, llywio, effeithlonrwydd tanwydd faint bydd eich teiars yn para.

 

Eich hunan

  • Gwnewch yn siwr eich bod chi wedi cael digon o orffwys ac nad ydych chi dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Darllenwch fwy ar y 5 Angheuol 
  • Cynlluniwch eich llwybr a threfnwch seibiannau yn ystod eich taith.