Mae gyrru yn y gaeaf yn wahanol iawn i yrru ar adegau eraill o’r flwyddyn. Mae tywydd garw a chyfnodau hirach o dywyllwch yn gwneud gyrru’n fwy peryglus. Gall amgylchiadau fod yn eithafol ar adegau, fel y gwelsom yn ystod y gaeafau diweddar, gyda chyfnodau hir o eira trwm. Cymerwch ychydig o amser i ystyried sut mae hyn oll yn effeithio ar eich gyrru, peidiwch â gyrru’n fel y byddech chi fel arfer!

Wiriadau Cyn Teithio

  • Gwrandewch ar ragolygon y tywydd a chyflwr y ffyrdd
  • Gadewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith os yw’r amgylchiadau teithio’n wael
  • Oedwch eich taith os bydd y tywydd yn mynd yn ddifrifol
  • Sicrhewch eich bod wedi gwneud eich archwiliadau diogelwch cerbydau

Cadwch becyn gaeaf yn y car bob amser

  • Paratowch am y gwaethaf drwy gadw dillad cynnes, blanced, bwyd a dŵr yn y car.
  • Bydd aros yn hir yn yr oerfel am gerbyd achub i ddod i’ch nôl yn fwy cyfforddus gyda’r rhain wrth law.

Gadewch ddigon o amser i dynnu’r rhew o’ch car cyn cychwyn i’r gwaith

  • Neilltuwch amser i dynnu’r rhew o’ch car yn drylwyr.
  • Gallai gyrru gydag eira neu rew ar y car fod yn drosedd os bydd yn cyfyngu ar eich cwmpas gweld, tynnwch eira o do eich car cyn cychwyn ar eich taith.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser cyn y gwaith i dynnu’r rhew o bob ffenest o’ch car yn iawn.

Peidiwch â bychannu perygl posib haul y gaeaf

  • Gall pelydrau isel fod yn beryglus yn y gaeaf, gan effeithio’n fawr ar eich gallu i weld.

Wrth yrru mewn eira, cyflymwch yn araf deg, gan refio ychydig yn unig

  • Er mwyn osgoi llithro, cychwynwch yn yr ail gêr, a pheidiwch â brecio’n sydyn, gan y gallai hynny gloi eich olwynion.
  • Yn ogystal â mynd yn araf, rhowch fwy o le i chi’ch hun ar y ffordd – efallai y bydd angen 10 gwaith cymaint â’r bwlch arferol rhyngoch chi a’r car o’ch blaen.

Archwiliwch eich goleuadau niwl cyn pob taith

  • Defnyddiwch eich prif oleuadau os byddwch yn methu gweld yn llai na 100 medr – hyd gae pêl-droed.
  • Defnyddiwch oleuadau niwl cefn dim ond pan fydd y golau’n lleihau a’u diffodd cyn gynted ag y bydd yn gwella.
  • Os na ellir gweld yn bell, dylech agor ffenestri wrth gyffyrdd i wrando am unrhyw gerbydau posib yn nesau.

Peidiwch â dibynnu ar eich ffôn clyfar

  • Ni fydd golau ffôn bob amser yn rhoi digon o amlygrwydd i chi, a gall gwasanaeth gwael atal y gallu i ddod o hyd i’ch lleoliad. Yn lle hynny, cadwch dortsh ac atlas ffyrdd papur a theclyn llywio â lloeren yn eich car.
  • Cadwch eich ffôn ar gyfer gwneud galwadau brys.

Byddwch yn ymwybodol o sut y dylech ymateb pan fydd storm yn taro

  • Peidiwch â theithio nes bod storm wedi clirio.
  • Dylech gadw at y prif ffyrdd os oes modd lle byddwch chi’n llai tebygol o wynebu canghennau trig a llifogydd.
  • Cydiwch yn dynn ar eich olwyn lywio i gadw rheolaeth ar eich cerbyd wrth yrru drwy chwythymau o wynt, a gwyliwch yn ofalus am fylchau rhwng coed neu adeiladau, lle byddwch chi’n fwy tebygol o ddod ar draws y gwynt yn chwythu o’r ochr.

Archwiliwch eich teiars

  • Mewn amgylchiadau rhewllyd a glawog, mae cael teiars â digon o afael yn bwysicach byth.
  • Gwnewch yn siwr bod y gwasgedd aer yn gywir (gan gynnwys yr olwyn sbâr), a bod dyfnder digonol o ran gafael – yn ôl y gyfraith, dylai hwn fod o leiaf 1.6mm i geir. Ystyriwch eu newid cyn iddynt gyrraedd y dyfnder hwn.