Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymroddedig i gadw cymunedau’n ddiogel. Rydym wedi casglu awgrymiadau ynghyd i gynorthwyo myfyrwyr yn Ne Cymru i leihau’r risg o dân ble rydych chi’n byw yn ystod y tymor.
Bydd dilyn yr awgrymiadau hyn ar gyfer diogelwch yn y cartref, a’u cynnwys yn eich trefn bob dydd yn eich helpu chi i fyw’n ddiogelach yn eich cartref newydd:
Ydych chi’n fyfyriwr newydd yn ardal De Cymru? Ewch i’n stori newyddion Glas Fyfyrwyr am fwy o awgrymiadau diogelwch yma!
Mae larymau mwg gweithredol yn achub bywydau
- Cofiwch, mae’n rhaid bod y larwm mwg yn gweithio’n iawn er mwyn iddo allu eich rhybuddio chi. Os ydych chi’n rhentu neu’n rhannu tŷ, dylai eich landlord fod wedi gosod larymau mwg – fel arfer gydag un ar bob llawr o’ch adeilad. Profwch e unwaith yr wythnos i sicrhau ei fod e’n weithredol. Edrychwch i weld a yw eich landlord ar restr Rent Smart Wales gan ddylai landlordiaid gydymffurffio â’r gyfraith mewn perthynas â diogelwch tân
- Os ydych chi’n byw mewn Neuadd neu fflatiau i fyfyrwyr, os oes panel larwm tân yno, gwnewch yn siwr ei fod e’n gweithio ac nad oes dim ‘diffygion’ i’w gweld. Hefyd, gwnewch yn siwr bod y system larwm yn cael ei phrofi’n gyson.
Byddwch yn gyfarwydd â’ch llwybr dianc
- Cynlluniwch sut byddech chi’n dianc mewn achos o dân. Os ydych chi mewn tŷ gosod – gwnewch yn siwr bod yr allanfeydd yn rhydd o ysbwriel – gan gynnwys beiciau!
- Os ydych chi mewn neuaddau neu fflatiau – byddwch yn gyfarwydd â’r cynllun gwacau ar gyfer eich adeilad; gofynnwch i reolwr neu warden eich adeilad, neu’r tîm llety myfyrwyr.
Cymerwch ofal wrth goginio
- Gallai microdonau orboethi os ydych chi’n pentyrru pethau ar eu pennau, felly gadewch wagle o’u cwmpas
- Peidiwch â rhoi metal yn y ficrodon
- Nid yw’n syniad da i goginio ar ôl noson mas. Gallech chi fynd i gysgu neu anghofio am y bwyd sy’n coginio
- Gwagiwch flwch briwsion y tostiwr o dro i dro a pheidiwch â gadael i’r ficrodon, ffwrn neu’r gril fynd yn rhy fudr! Haenen ar ben haenen o saim a braster yw un o brif achosion tân yn y gegin
- Os ydych chi’n llosgi’ch bysedd yn ddamweiniol wrth goginio, rhowch eich bysedd dan ddŵr tap oer am 20 munud. Cyngor y Children’s Burn Trust yw oerwch, galwch, gorchuddiwch ac mae hyn yn berthnasol i bawb
Oergelloedd/Rhewgelloedd, peiriannau golchi a sychyddion dillad
- Gwagiwch ffilter peiriannau golchi a sychyddion dillad yn gyson.
- Cadwch y peiriannau’n lan ac yn weithredol a gwnewch yn siwr bod nodau diogelwch Prydain neu Ewrop arnynt – e.e. nod barcut Cydymffurfiaeth Ewropeaidd
- Gwyliwch y fideos am ddiogelwch nwyddau gwyn drwy ddilyn y dolenni isod….
Technoleg a gwefru
- Os ydych chi’n prynu nwyddau technegol ail law, gwnewch yn siwr eu bod nhw wedi cael prawf PAT a bod y ceblau a lidiau’n gyfan ac yn daclus ac nad oes gwifrau yn y golwg. Darllenwch fwy advice on extensions and leads
- Gwyliwch rhag prynu nwyddau ffug, yn enwedig wrth brynu ar-lein. Darllenwch fwy ar safe shopping.
- Defnyddiwch un plwg i bob soced ar y mwyaf. Peidiwch â gorlwytho ceblau ymestyn gyda gormod o nwyddau trydanol. Cyfrifwch gyda’r socket calculator
Byddwch yn ofalus gyda chanhwyllau
- Ceisiwch osgoi symud canhwyllau ar ôl eu cynnau.
- Cadwch ganhwyllau draw oddi wrth lenni, papurau, ffenestri agored a drafftiau.
- Gwnewch yn siwr y byddwch chi’n diffodd canhwyllau cyn i chi adael ystafell neu fynd i’r gwely.
- Darllenwch fwy candle safety advice.
Os ydych chi’n ysmygu
- Defnyddiwch flwch llwch iawn yn hytrach na bin neu rywbeth a allai fynd ar dân.
- Ysmygwch y tu fas neu mewn ardaloedd ysmygu dynodedig, a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
Os oes gennych unrhyw bryderon
Os oes gennych bryderon ynglŷn â Diogelwch Tân cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cewch adrodd am bryder ynghylch diogelwch tân neu ffonio 01443 232716 yn ystod oriau gwaith arferol, o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yh.
Os oes tân lle rydych chi’n byw, galwch 999.
Ydych chi wedi ymweld â’n tudalen diogelwch ar y ffyrdd hefyd?
Fideos Diogelwch Trydan Safety First