Gyda llawer o bobl yn hunan-ynysu ac yn gweithio o gartref ar hyn o bryd fel canlyniad o COVID-19, mae’n bwysig i gynnal gweithgaredd corfforol am ein hiechyd meddwl a lles. Mae’n Gynghorwyr Ffitrwydd ac Iechyd wedi creu nifer o ymarferion gartref i chi drio heb angen o unrhyw offer.  


 

  1. Ymwrthodiad ar gyfer anaf personol neu farwolaeth (gweithgaredd neu ddigwyddiad chwaraeon)

HYSBYSIAD PWYSIG

Mae’r ymarferion hyn yn heriol yn gorfforol ac mae ganddynt risgiau na allwn eu gwaredu yn gyfan gwbl. Mae’r rhain yn cynnwys y risg o anaf personol yn ogystal â chymhlethdodau i gyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.

Rheolau

  • Nid ydym yn gymwys i fynegi barn eich bod yn addas i gymryd rhan yn ddiogel. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol gan eich meddyg cyn cymryd rhan.
  • Rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb llawn am eich diogelwch eich hun. Rhaid ymddwyn yn gyfrifol ac yn synhwyrol bob amser.
  • Gwnewch sesiwn cynhesu ac oeri priodol ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiynau. Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn, gofynnwch am gyngor gan gynghorydd Iechyd a ffitrwydd.
  • Rhaid i chi beidio â chymryd rhan os ydych yn feichiog neu o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau di-bresgripsiwn.
  • Rhowch wybod i’ch cynghorwyr iechyd a ffitrwydd os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes neu os ydych ar unrhyw feddyginiaeth a allai effeithio ar eich gallu i wneud ymarfer corff.
  • Os oes gennych golesterol uchel, pwysedd gwaed uchel, diabetes neu os ydych chi’n cario gormod o bwysau rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol gan eich meddyg cyn cymryd rhan.
  • Rhaid i chi ddilyn unrhyw rybuddion diogelwch neu gyfarwyddiadau a arddangosir neu a roddir i chi.
  • Rhaid ymarfer o fewn eich gallu yn unig a chymryd cyfrifoldeb am eich diogelwch eich hun.
  • Rhowch y gorau i ymarfer ar unwaith os teimlwch yn sâl a gofynnwch am gyngor meddygol.
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol i ymarfer bob amser..
  • Cofiwch hydradu eich hunn cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer.

Yn absenoldeb unrhyw esgeulustod neu dor-dyletswydd arall gennym, mae cyfranogiad yn gyfrifoldeb llwyr arnoch chi.

  1. Ymwrthodiad ar gyfer anaf personol neu farwolaeth (defnyddio offer campfa)

Chi sy’n gyfrifol am ddefnyddio unrhyw offer yn ddiogel ac yn ôl y cyfarwyddyd. Rhaid i chi ymddwyn yn synhwyrol a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau diogelwch er mwyn peidio â brifo neu anafu eich hun neu eraill.

Yn niffyg unrhyw esgeulustod neu achos arall o dorri dyletswydd gennym ni, eich risg chi yn llwyr yw defnyddio ein peiriannau, ein hoffer neu’n cyfleuster.

MAE’N BWYSIG EICH BOD CHI’N DARLLEN AC YN DEALL Y DATGANIAD HWN CYN PARHAU. OS OES UNRHYW DERM NAD YDYCH YN EI DDEALL, YNA TRAFODWCH GYDA NI CYN PARHAU.