Mae hi’n gynyddol amlwg bod cyswllt penodol rhwng cynnau tanau bwriadol a cham-drin domestig. Mae’r Uned Trosedd Tân yn cydweithio’n agos â phartneriaid yn yr Heddlu a’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Gall hynny olygu gosod atalfeydd ar flychau post, larymau mwg ychwanegol a chymorth, os oes angen, i greu ‘ystafell ddiogel’.

Trwy fynychu Cynhadledd Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol gallwn sicrhau ein bod yn cydweithio ag asiantaethau partner a bod ymarferwyr yr Uned Trosedd Tân yn gallu trefnu i ymweld ag eiddo pan nodir achos difrifol o gam-drin domestig. Yn ogystal, mae yna broses atgyfeirio sy’n galluogi asiantaethau i atgyfeirio dioddefwyr at yr Uned Trosedd Tân os credir eu bod nhw mewn perygl o gael eu heffeithio gan dân sydd wedi ei gynnau yn fwriadol. Yna, bydd ymarferwyr trosedd tân yn cysylltu â’r dioddefwyr i drefnu ymweliad.

Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o faterion cysylltiedig â cham-drin domestig a throseddau casineb a’r effaith ar ein sefydliad a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.