Dysgwch am ddrysau tân a’r safonau gofynnol, i wneud yn siŵr bod eiddo yr ydych yn berchen arno neu’n ei reoli yn ddiogel mewn achos o dân.

Beth yw Drws Tân?

Rydyn ni’n cerdded heibio i ddwsinau o ddrysau tân bob dydd heb sylwi arnynt hyd yn oed. Dydyn ni ddim yn meddwl amdanynt eto – o leiaf, nid nes bydd eu hangen arnom.

Mae drysau tân wedi’u gwneud yn arbennig i sicrhau eu bod yn atal tân a mwg rhag ymledu pan fyddant ar gau.

Os bydd drws tân wedi cael ei wneud yn iawn gan wneuthurwr ardystiedig, gyda chydrannau cydnaws ac wedi’i ardystio gan drydydd parti achrededig, dylai ddal tân yn ôl am amser penodedig gan ddibynnu ar ei leoliad a’r defnydd y’i bwriedir ar ei gyfer.

 

Pwysigrwydd Drysau Tân

  • Rhaid i ddrysau tân weithio’n gywir er mwyn achub bywydau.
  • Rhaid eu profi a rhaid bod ganddynt dystysgrif BS 476 rhan 22 neu BS EN 1634-1 gan drydydd parti
  • Rhaid eu ffitio â chydrannau cywir a chydnaws sy’n addas i ddalen a phwrpas y drws.
  • Dylai pobl âg arbenigedd perthnasol eu gosod a’u cynnal a’u cadw.

Os ydych chi’n byw mewn fflat dylai’r drws mynediad fod yn ddrws tân. Gall drysau nad ydynt yn cael eu graddio ar gyfer tân beryglu eich diogelwch chi yn ogystal â diogelwch eich teulu a’ch cymdogion. Am ragor o wybodaeth gweler
“Fire doors in blocks of flats and similar buildings”.

Pa mor ddiogel yw eich Drysau Tân?

Drysau Tân – Beth i’w Wneud a Beth i’w Osgoi

GWNEWCH YN SIWR EICH BOD CHI’N:

  •  Prynu drysau tân, fframiau a chydrannau gan gwmnïau ardystiedig.
  • Sicrhau bod yr ardystiad cywir yn cael ei ddewis ar gyfer y defnydd y bwriedir y drws ar ei gyfer.
  • Defnyddio personél cymwys i osod a chynnal a chadw eich drysau tân.
  • Gwneud yn siwr bod yr holl ddarnau metel ar ddrysau tân wedi’u nodi â marc ansawdd CE.
  • Archwilio tystysgrif diogelwch y drws tân. Gwnewch yn siŵr ei fod yn cyfateb i’r drws a bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn weladwy.
  • Archwilio eich drysau tân yn rheolaidd.

PEIDIWCH Â:

  • Thorri paneli gweld ar y safle.
  • Thrin drws tân fel drws cyffredin.
  • Gwneud gwaith atgyweirio ar y safle.
  • Lletemu drysau tân ar agor neu osod eitemau wrth ddrysau tân i’w rhwystro rhag cau’n awtomatig.
  • Thynnu dyfeisiau cau eu hunain yn gysylltiedig â’r drws tân.

Dod o hyd i osodwr drws tân

Mae gosod drws tân yn gywir yr un mor bwysig â sicrhau bod y drws ei hun o’r safon gywir. Dylid defnyddio gosodwr drws tân achrededig trydydd parti. Mae amryw o gynlluniau sy’n achrededig gan drydydd parti, sy’n caniatáu i chi weld eu cofrestrau a dod o hyd i grefftwr sydd â chymwysterau addas.

Os oes gennych bryder diogelwch tân, rhowch wybod amdano yma.

 

Adnoddau Defnyddiol:

 

Dolenni defnyddiol: