Cynlluniwch eich taith! Os ydych yn bwriadu gyrru heddiw, cynlluniwch eich taith cyn i chi gychwyn.

Wiriadau Cyn Teithio :

Os ydych yn bwriadu gyrru heddiw, cynlluniwch eich taith cyn i chi gychwyn:

  • Gwrandewch ar ragolygon y tywydd a chyflwr y ffyrdd
  • Gadewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith os yw’r amgylchiadau teithio’n wael
  • Oedwch eich taith os bydd y tywydd yn mynd yn ddifrifol
  • Sicrhewch eich bod wedi gwneud eich archwiliadau diogelwch cerbydau

 

Gyrru yn ystod glaw trwm

Gall gyrru pan fydd ffyrdd mewn cyflwr gwlyb fod yn beryglus, cadwch yn ddiogel a pharatowch ar gyfer tywydd gwlyb:

  • Defnyddiwch y prif oleuadau pen pan fydd gwelededd yn gwaethygu.
  • Archwiliwch y sychwyr ffenestri a’u hadnewyddu’n rheolaidd os ydynt wedi treulio neu eu difrodi. Rhowch y cyfle gorau i chi eich hun allu gweld yn glir mewn tywydd gwlyb.
  • Gadewch ddwywaith gymaint o bellter rhwng eich car a’r car o’ch blaen, gan fod pellteroedd stopio’n cael eu cynyddu gan ffyrdd gwlyb.
  • Os na fydd y llywio’n ymateb o ganlyniad i’r glaw, peidiwch â defnyddio’r cyflymydd ac arafwch yn raddol.

Gyrru ar ffyrdd â llifogydd a dŵr sy’n cronni

  • Peidiwch â cheisio gyrru drwy ddŵr sy’n symud yn gyflym, megis wrth ddynesu at bontydd dan ddŵr – gallai eich car gael ei ysgubo ymaith yn hawdd.
  • Osgowch ddŵr sy’n cronni os gallwch ac addaswch eich cyflymder i’r amgylchiadau.
  • Gall teiars golli cysylltiad â’r ffordd a gallai hyn arwain at golli rheolaeth ar lywio (a elwir hefyd yn ‘llithro ar ddŵr’). Os byddwch chi’n llithro ar ddŵr, daliwch yr olwyn lywio yn ysgafn a pheidiwch â defnyddio’r throttle nes bod y teiars yn cydio yn y ffordd eto.
  • Gall gyrru drwy ddŵr ar gyflymder uwch nag araf iawn arwaiin at ddŵr yn cael ei daflu ar balmentydd, gan wlychu cerddwyr neu feicwyr. Gallech wynebu dirwy sylweddol yn ogystal â rhwng tri a naw pwynt cosb os yw’r heddlu’n credu eich bod yn gyrru heb ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffyrdd eraill.
  • Os byddwch chi’n deall eich bod chi’n gyrru drwy ddŵr sy’n cronni, defnyddiwch gêr isel fel bod yr injan yn troi’n gynt; neu mae’n bosib i ddŵr yn y beipen gwacáu niweidio’r trawsnewidydd catalytig.
  • Os byddwch chi’n torri i lawr mewn glaw trwm peidiwch â gadael y boned yn agored tra byddwch chi’n aros i’r patrol gyrraedd. Bydd yr injan yn fwy anodd ei chychwyn eto os yw’r gwifrau trydanol i gyd wedi cael eu socian gan law.