Canllawiau ar gyfer darparwyr gofal a gofal iechyd

Cyngor diogelwch ac atal tân ar gyfer darparwyr Gofal a Gofal Iechyd yn ystod Coronavirus.

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005                                                       

Mae GTADC yn cydnabod yr effaith allweddol y mae’r pandemig parhaus Coronafeirws (COVID-19) yn ei gael ar y DU ac yn arbennig yr amgylchedd Gofal Iechyd felly mae ein tîm Gofal Iechyd penodedig wedi darparu canllawiau penodol i gefnogi ein hadeiladau Gofal gyda threfniadau diogelwch tân presennol sy’n gyson â threfniadau’r sector gofal a chynnal amgylchedd diogel i’w preswylwyr drwy gydol y cyfnod digyffelyb hwn.

Felly, dylai’r holl gyfleusterau gofal a ddarperir adolygu eu hasesiad risg tân a’u gweithdrefnau/cynlluniau argyfwng yng ngoleuni’r effaith y gallai COVID-19 ei gael ar eu lefelau staffio, trefniadau gwacáu, hyfforddiant a chynnal a chadw.

Gallai hefyd fod yn ddoeth i’r Person Cyfrifol ymgynghori â’i yswirwyr wrth ystyried asesu a lliniaru risg. Dylid nodi nad rôl yr yswiriwr yw pennu cydymffurfiaeth â’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (RR (FS) O 2005), sy’n aros gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA).

 

Canllawiau:

Rhagor o wybodaeth

Byddwch yn ddiogel a dymuna GTADC fanteisio ar y cyfle hwn i’ch canmol am eich ymdrechion a’ch ymroddiad parhaus wrth roi eich hunain mewn perygl wrth helpu’r rhai sy fwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ceir rhagor o ganllawiau trwy wybodaeth COVID-19: Cyngor Diogelwch Tân  ar gyfer adeiladau (Canllawiau NFCC)

 

 

Rhybudd Diogelwch Tân:

Tanau diweddar yn cynnwys prosesau Golchi – Ystyriaeth gritigol

Mae’n bosib na fydd cyfleusterau golchi dillad yn gweithio fel y byddent yn gwneud cyn y pandemig, felly rydym yn argymell y dylid ystyried:

  • Golchi yn ystod oriau arferol y dydd.
  • Cynnal gwaith cynnal a chadw a glanhau hidlwyr yn rheolaidd.
  • Sicrhau bod drysau’r ystafell olchi dillad ar gau pan fo’r ystafell yn wag.
  • Golchi deunyddiau sy’n cynnwys meddalyddion croes neu olewau ar dymheredd digon uchel i ryddhau gronynnau cyn mynd i mewn i’r gylchred sychu.

Dadlwythwch adnoddau

Dadlwythwch, argraffwch ac arddangoswch un o’r posteri hyn yn eich adeilad:

Picture of tumble dryer with safety tips for care premises   Picture of cooker with safety tips for care premises