Mae parhad busnes yn sicrhau bod gan eich cwmni lefel addas o wasanaeth a darpariaeth pan fydd digwyddiadau aflonyddgar yn digwydd. Nid yw 80% o fusnesau (heb gynllun parhad busnes) sy’n profi digwyddiad mawr byth yn ail-agor neu’n cau o fewn 18 mis.  

Felly, fel busnes, mawr neu fach, mae cael llawer o gwsmeriaid neu dim ond ambell un, gall defnyddio Parhad Busnes yn eich sefydliad, golygu’r gwahaniaeth rhwng methu neu oroesi ar ôl digwyddiad, megis tân.

Mae’r mathau o ddarfu y gallai busnesau eu hwynebu yn amrywio, ond gallant gynnwys:

  • Colli eiddo.
  • Prinder staff.
  • Colli cyfleustodau.
  • Colli systemau a thechnoleg cyfathrebu gwybodaeth.
  • Colli cerbydau.
  • Colli’r gadwyn gyflenwi.

Prif egwyddorion Parhad Busnes yw:

  • Nodi gweithgareddau hanfodol eich sefydliad, megis y pethau y mae angen i chi eu gwneud i ddarparu eich gwasanaeth/cynnyrch.
  • Nodi’r bygythiadau i’r gwasanaethau/cynhyrchion, er enghraifft, peryglon naturiol, ymosodiadau seiber, colli staff, ac ati.
  • Cynllunio ar gyfer adfer a sut bydd y sefydliad yn parhau i weithredu, pa bryd y bydd angen adfer systemau a phrosesau erbyn a sut y gwneir hynny.
  • Hyfforddi staff ac arfer cynlluniau, fel y gallwch fod yn hyderus y bydd trefniadau cynllunio yn gweithio.
  • Cynnal trefniadau drwy ddiweddaru cynlluniau a dogfennau eraill yn rheolaidd. Dylai Parhad Busnes gael ei wreiddio yn eich sefydliad fel bod eich staff yn ei ddefnyddio’n rhwydd ac yn naturiol.

Am fwy o gyngor, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.