Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Bersonau Cyfrifol i sicrhau bod yr holl bobl berthnasol ar eu safle neu yng nghyffiniau ei safle yn ddiogel rhag tân. Mae’r cyfrifoldebau a’r mesurau diogelwch hyn wedi’u cynllunio i ddiogelu bywyd ym mhob ymyrraeth Tân ac Achub.

O dan Orchymyn Diogelwch Tân 2005, rhaid i ‘berson cyfrifol’ gynnal, neu benodi person cymwys i gynnal asesiad addas a digonol o’r risgiau i’ch gweithwyr a ‘phersonau perthnasol’ eraill rhag tân.

 

Pwy sy’n gyfrifol?

Chi yw’r “person cyfrifol” ar gyfer diogelwch tân mewn eiddo busnes neu eiddo arall nad yw’n eiddo domestig os ydych chi’n:

  • Gyflogwr
  • Perchennog
  • Landlord
  • Deiliad
  • Unrhyw un arall â rheolaeth dros y safle, er enghraifft, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Adeilad, Asiant Rheoli neu Aseswr Risg.

Os oes mwy nag un unigolyn cyfrifol, rhaid i chi weithio gyda’ch gilydd i fodloni eich cyfrifoldebau.

Mae Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol hefyd os oes gennych chi westeion sy’n talu, er enghraifft, os ydych chi’n rhedeg llety gwely a brecwast, gwesty neu eiddo hunanarlwyo.

Cyfrifoldebau

Peidiwch â Colli Eich Busnes I Dân


Fel yr unigolyn cyfrifol, rhaid i chi:

  • Gyflawni asesiad risg tân o’r safle yn rheolaidd (rydyn ni’n argymell unwaith y flwyddyn, o leiaf).
  • Dweud wrth y staff neu eu cynrychiolwyr am y risgiau rydych chi wedi’u hamlygu
  • Rhoi mesurau diogelwch tân priodol ar waith, a’u cynnal
  • Cynllunio ar gyfer argyfwng
  • Rhoi gwybodaeth, cyfarwyddyd diogelwch tân a hyfforddiant i’r staff

Gallwch ddarllen am sut i wneud yn siŵr bod eich safle’n ddiogel rhag tân yma.

A oes arnaf angen Asesiad Risg Tân?

Erbyn hyn mae’n ofynnol i bob bloc o fflatiau gael Asesiad Risg Tân yn ôl y gyfraith. Mae’r Ddeddf Diogelwch Tân yn cynnwys adeiladau â gwesteion sy’n talu e.e. Sefydliadau Gwely a Brecwast, Gwestai ac adeiladau llety hunanarlwyo.