Polisi a Chyfarwyddyd ar Hawlfraint ac Ail-ddefnyddio Deunyddiau

Bydd y wybodaeth a ddarluniwyd ar y wefan hon (www.decymru-tan.gov.uk) a’n cyhoeddiadau yn destun diogelwch hawliau. Ym mwyafrif yr achosion, perchnogir yr hawlfraint gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“GTADC”). Efallai bydd yr hawlfraint o fewn gwybodaeth arall yn cael ei berchnogi gan berson neu sefydliad arall, a bydd hyn yn cael ei ddynodi ar y wybodaeth ei hun.

Cewch ddefnyddio ac ail-ddefnyddio’r wybodaeth lle perchnogir yr hawlfraint gan GTADC (heblaw am logos neu ffotograffiaeth) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw ffurf neu fodd, o dan amodau’r Drwydded Llywodraeth Agored a ddarperir gan Yr Archifau Gwladol.

Mae gwybodaeth yn cael ei drwyddedu fel y mae ac rydym yn eithrio pob dehongliad, gwarant, ymrwymiad a rhwymedigaeth mewn perthynas â’r wybodaeth a ddarluniwyd yn y wefan hon hyd yr eithaf ehangaf a ganiateir gan gyfraith.

A fyddwch cystal â nodi nad yw’r drwydded yn cwmpasu hawliau trydydd parti nad oes gennym awdurdod i’w trwyddedu, unrhyw hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys patentau, arwyddnodau masnachu a hawliau cynllunio, na chwaith fydd y drwydded yn rhoi unrhyw hawl i chi ddefnyddio gwybodaeth mewn modd sy’n awgrymu unrhyw statws swyddogol neu ein bod yn eich ardystio chi neu eich defnydd o’r wybodaeth. Lle delir hawlfraint gan drydydd parti, rydych chi’n cytuno i gaffael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog yr hawlfraint cyn unrhyw ail-ddefnydd.

Gweler telerau’r Drwydded Llywodraeth Agored am fanylion pellach.

Cyfyngir y defnydd o’n logos ac ni chaiff ei ddefnyddio gan unigolion neu sefydliadau eraill heb ganiatâd ffurfiol gennym.

I geisio caniatâd i ddefnyddio ein logo, cysylltwch drwy law’r canlynol:

Er dylid nodi nad ydym fel arfer yn rhoi caniatâd i unigolion neu sefydliadau eraill ddefnyddio ein logos.

Bwriedir hwn i gynorthwyo aelodau’r cyhoedd ac eraill sy’n ystyried defnyddio ein gwybodaeth a’n logos. Ni fwriedir i hwn fod cyfystyr â chyngor cyfreithiol, ac awgrymwn eich bod yn ceisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hunan pe bai angen hyn arnoch.