Dyma rai awgrymiadau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau eich bod yn ysmygu’n ddiogel:

  • Diffoddwch sigaréts yn iawn a’u gwaredu’n ofalus. Diffoddwch nhw. Diffodwch nhw’n llwyr!
  • Peidiwch byth â smygu yn y gwely.
  • Defnyddiwch flwch llwch iawn – peidiwch byth â defnyddio basged.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich blwch llwch yn rhy fach a’i fod wedi’i wneud o ddeunydd na fydd yn llosgi.
  • Peidiwch â gadael sigarét, sigar neu getyn o gwmpas y lle. Gallant gwympo a dechrau tân yn hawdd.
  • Cymerwch ofal ychwanegol os ydych chi’n ysmygu pan fyddwch wedi blino, yn cymryd cyffuriau ar bresgripsiwn, neu os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol. Efallai y byddwch yn syrthio i gysgu a chynnau tân yn eich gwely neu soffa.
  • Cadwch matsis a thanwyr allan o gyrraedd plant.
  • Ystyriwch brynu tanwyr sy’n a blychau matsis na all plant eu hagor.

Os ydych am roi’r gorau i ysmygu am byth, mae gan ASH Cymru lawer o wybodaeth ar gael wrth iddynt weithio tuag at Gymru ddi-fwg.