Dyma ganllaw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar danau mewn gerddi.

Rydym y cynghori pawb am beidio â llosgi dim ysbwriel neu wastraff o’r ardd. Y peth gorau i’w wneud yw ailgylchu gwastraff domestig neu gompostio gwastraff o’r ardd. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am wybodaeth am gasglu a chanolfannau ailgylchi, neu ewch i Gymru yn ailgylchu.

Does dim adegau penodol wedi’u trefnnu ar gyfer cael tanau. Does dim rheolau yn erbyn tanau mewn gerddi, ond mae cyfreithiau yn erbyn y niwsans maent yn ei achosi. Fodd bynnag, fe’ch cynghorir i gynnal asesiad risg ar bob agwedd o unrhyw dân i sicrhau ei fod e’n ddiogel ac nad yw’n rhy agos at adeiladau neu ddeunyddiau llosgadwy eraill. Cewch ddarllen mwy ar wefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).

Os ydych chi’n cynnal barbeciw yn ddiogel, ddylai dim elfen o niwsans godi o gwbl. Am fwy o wybodaeth am sut i drefnu barbeciw yn ddiogel, ewch i’n canllawiau diogelwch yma.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ymroddedig i gadw cymunedau’n ddiogel drwy eich helpu chi adnabod a deall sut i leihau risg yn eich cartref. I gael cyngor pellach, darllenwch ein cwestiynau ac atebion.

Cwestiwn: Mae fy nghymydog yn cynnau tanau gardd yn rheolaidd sy’n achosi niwsans! Beth allaf ei wneud?

Ateb : Os yw’r tân yn beryglus a’ch bod chi mewn perygl, yna ffoniwch 999. Fel arall, nid oes unrhyw gyfreithiau yn erbyn cael tân gardd neu goelcerth, ond mae cyfreithiau ar gyfer y niwsans y gallant ei achosi. Os ydych chi’n teimlo bod cymdogion yn achosi niwsans amgylcheddol, cysylltwch â’ch cyngor lleol, gan eu bod yn meddu ar bwerau statudol ar gyfer cymryd camau gorfodi. Gall eich Cyngor gyhoeddi ‘rhybudd diddymiad’ os bydd coelcerth cymydog yn achosi niwsans. Rhaid i goelcerth ddigwydd yn aml i gael ei hystyried yn niwsans. Gall eich cymydog gael dirwy o hyd at £5,000 os nad yw’n dilyn rheolau’r hysbysiad.

Cwestiwn : Mae fy nghymydog wedi bod yn llosgi ysbwriel gan achosi llawer o fwg a mygdarth. Beth allai i wneud?

Ateb : Os yw’r tân yn beryglus a’ch bod chi mewn perygl, ffoniwch 999. Ni ddylai pobl losgi gwastraff domestig os bydd e’n achosi llygredd neu’n amharu ar iechyd pobl.

Heblaw am hynny, does dim cyfreithiau yn erbyn cael tân neu goelcerth yn yr ardd, ond mae cyfreithiau ar gyfer y niwsans y gallai ei achosi. Os ydych yn teimlo bod cymdogion yn achosi niwsans amgylcheddol, cysylltwch â’ch cyngor lleol gan fod gan y cyngor bwerau statudol i gymryd camau gorfodi. Gall eich cyngor gyhoeddi ‘hysbysiad atal’ os yw coelcerth cymydog yn achosi niwsans. Rhaid bod coelcerth yn digwydd yn aml i gael ei hystyried yn niwsans. Gall eich cymydog gael dirwy o hyd at £5,000 os nad yw’n dilyn rheolau’r hysbysiad.

Cwestiwn : Rhaid i mi gael gwared â gwastraff o’r ardd, gaf i ei losgi’n ddiogel yn fy ngardd?

Ateb : Nid ydym yn cynghori unrhyw un i losgi gwastraff o’r ardd neu wastraff domestig. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am wybodaeth am gasgliadau a chanolfannau ailgylchu, neu ewch i Gymru yn ailgylchu.

Defnyddiwch wasanaethau gwastraff, ailgylchu a chompostio eich awdurdod lleol neu gallwch ei storio nes bydddwch chi’n gallu gwneud hynny. Gallech gael dirwy gan eich awdurdod lleol am danau mynych gan achosi niwsans i gymdogion. Ceir rhagor o wybodaeth yma ar wefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).

Cwestiwn : Gaf i farbeciw yn fy ngardd gefn?

Ateb : Gall teuluoedd gynnal barbeciw yn eu gerddi eu hunain, ar yr amod nad yw’n achosi unrhyw niwsans. I gael mwy o wybodaeth am sut i gynnal barbeciw yn ddiogel, ewch i’n canllaw diogelwch yma.