Mae Llethrau Llon yn fenter gymdeithasol ac amgylcheddol a ddyluniwyd i frwydro yn erbyn yr effaith ddinistriol y mae tanau gwyllt yn ei chael ar dirwedd, bywyd gwyllt a chymunedau Cymoedd De Cymru bob blwyddyn.

Mae prosiect Llechweddau Llon yn rhaglen bartneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddyluniwyd i leihau effaith tanau gwyllt ar draws Cymoedd De Cymru. Mae hwn yn brosiect cydweithredol, sy’n dod â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ynghyd.

Ein nod yw gweithio gyda chymunedau i greu ymdeimlad o berchnogaeth o’u hardal leol trwy eu cefnogi i gymryd camau ymarferol o gwmpas eu cartrefi a’u gerddi i leihau eu risg o danau gwyllt.

Rydym yn blaenoriaethu addysg a thechnegau diffodd tân newydd i leihau’r difrod y mae tanau gwyllt yn ei achosi wrth losgi. Mae Llethrau Llon wedi ymrwymo i wella’r brithwaith o gynefinoedd sy’n unigryw i Gymoedd De Cymru, gan weithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr i fabwysiadu cynlluniau sydd yr un mor fuddiol iddynt hwy a’r cymunedau sy’n ffinio â’u safleoedd.

Gyda’n hymyrraeth ni, gallwn adfywio llethrau’r Cymoedd i greu mannau gwyrdd mwy diogel sydd o fudd i’r cymunedau sy’n byw arnynt.

Ffeithiau am danau gwyllt:

  • Yn gyffredinol mae’r tymor tanau yn cyrraedd ei brig rhwng mis Mawrth a mis Mai.
  • Mae dros 60% o danau gwyllt yn digwydd rhwng 4yh a hanner nos.
  • Bydd cynnau tanau glaswellt bwriadol yn arwain at gofnod troseddol am oes i chi. Gallai’r rhai sy’n cael eu dal yn cynnau tanau glaswellt yn fwriadol gael eu cosbi gyda hyd at ddwy flynedd yn y carchar neu dderbyn dirwy o £5,000.
  • Dros yr 20 mlynedd diwethaf, bu 76,000 o danau gwyllt ar draws Cymoedd De Cymru – cafodd 96% o’r tanau gwyllt hyn eu cynnau’n fwriadol.
  • Rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021, mynychodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i 1,053 o danau gwyllt bwriadol, gyda 297 o’r rhain yn Rhondda Cynon Taf.

Mae tanau gwylllt wedi’i gydnabod yn swyddogol fel un o brif beryglon y DU, a nodir yng Nghofrestr Risg Genedlaethol Argyfyngau Sifil. Cost flynyddol ymladd tanau gwyllt yn y DU yw 55 miliwn o bunnoedd.

Ein gwaith

Mae Llethrau Llon yn hyrwyddo defnyddio gwahanol ffyrdd o reoli’r dirwedd i atal tanau gwyllt; mae hyn yn cynnwys defnyddio peiriannau arloesol fel ATVs llawn offer, 4×4’s a hofrennydd. Ers dechrau’r prosiect, mae Llethrau Llon wedi ariannu offer rheoli tir fel torwyr brwsh a pheiriannau torri gwair i gefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gyflawni eu hymrwymiad i reoli tir.

Yn ogystal ag edrych i’r dyfodol ar gyfer technegau atal tanau gwyllt, rydym hefyd yn cymryd ysbrydoliaeth o’r gorffennol. Defnyddir ceffylau trwm i rolio a thorri rhedyn, gan ddarparu dewis amgen hynod effeithiol ac ecogyfeillgar yn lle peiriannau.

Yn ogystal â chymryd camau rhagweithiol i leihau’r dinistr y mae tanau gwyllt yn ei achosi, mae Llethrau Llon hefyd yn ariannu offer ymladd tân. Mae’r prosiect wedi cefnogi unig hofrennydd ymladd tân Cymru i brynu ‘snorcel’ – teclyn tebyg i bibell y mae’r hofrennydd yn ei ddefnyddio i lenwi ei danc dŵr trwy seiffno dŵr o lynnoedd, afonydd, neu ffynonellau eraill.

Firewise Cymru

Mae Firewise Cymru yn rhaglen sy’n galluogi cymdogion a chymunedau i gymryd cyfrifoldeb a chydweithio i leihau eu risg o ganlyniad i danau gwyllt.

Bydd Firewise Cymru yn cefnogi unigolion a grwpiau i greu cymunedau diogelach, cryfach, a rhai sy’n ystyried tanau gwyllt. Trwy ein fframwaith addysg, atal ac ymateb, rydym yn annog cymunedau i gymryd camau ymarferol mewn mannau o gwmpas eu cartref a’u gardd, i leihau eu risg o gael eu heffeithio’n andwyol gan danau gwyllt.

Dyma rai o fanteision bod yn Gymuned Firewise Cymru:

  • Gwneud eich cartref eich hun a’ch cymdogion yn fwy gwydn i danau gwyllt.
  • Helpu i adeiladu gwydnwch cymunedol a dinasyddiaeth dda.
  • Mae cymunedau’n rhagweithiol wrth leihau eu risg o danau gwyllt.
  • Cymunedau yn dysgu mwy am danau gwyllt.
  • Rhoi cynllun i’r gymuned weithio iddo.
  • Creu cyfleoedd i gysylltu â Chymunedau Firewise mewn ardaloedd a gwledydd eraill.

Yn eich ardal chi

Mae Firewise Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda thair cymuned yn Ne Cymru:

  • Hengoed, Caerffili
  • Gurnos, Merthyr Tudful
  • Llantrisant, Rhondda Cynon Taf

Rydym yn gobeithio recriwtio mwy o Gymunedau Firewise Cymru yn y dyfodol agos. Os ydych chi’n meddwl y byddai eich ardal chi’n elwa o ddod yn Firewise, mae croeso i chi anfon e-bost: LlethrauLlon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae gennym adnoddau i helpu preswylwyr i ddilyn cyngor syml Firewise Cymru i leihau’r risg o ddifrod i’w heiddo gan dân o ganlyniad i danau gwyllt.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad iddynt a’u cadw er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Taflen Firewise Cymru