Cyngor ar ddiogelwch trydanol

Os bydd eich nwyddau gwyn yn dechrau gwneud sŵn rhyfedd, peidiwch â’i anwybyddu – os ydych chi’n amau bod problem, dylech dynnu’r plwg bob amser a chysylltu â’r gwneuthurwr neu dechnegydd trwsio cymwys.

Mae hefyd yn bwysig i chi wirio’n rheolaidd a yw eich offer yn rhan o raglen adalw.

Am fwy o wybodaeth ewch i:-

  1. Diogelwch Nwyddau Gwyn a gwirydd adalw
  2. Diogelwch Trydanol yn Gyntaf (ESF)
  3. Gwefan y gwneuthurwyr yr offer

Peidiwch ag anghofio cofrestru eich offer gan y byddwch chi’n cael gwybod os bydd y gwneuthurwyr yn nodi unrhyw broblemau gyda’r cynnyrch rydych wedi’i brynu. Ewch i www.registermyappliance.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Cynghorion craff

  • Glanhewch hidlau a chasglwyr lint peiriannau golchi a sychwyr dillad yn rheolaidd
  • Peidiwch â gadael peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi na sychwyr dillad yn rhedeg heb oruchwyliaeth dros nos neu pan fydd eich eiddo’n wag am gyfnodau estynedig. Darllenwch mwy o wybodaeth am ddiogelwch peiriannau sychu dillad
  • Lawrlwythwch ein Canllaw Nwyddau Gwyn am fwy o wybodaeth
  • Dilynwch y rheol am roi un plwg yn unig mewn soced i beidio gorlwytho socedi trydan. Defnyddiwch Gyfrifiannell Drydanol ESF
  • Defnyddiwch gwefrydd pwrpasol ar gyfer ffonau symudol a dyfeisiau technoleg eraill a pheidiwch â phrynu nwyddau ffug rhatach. Lawrlwythwch ein taflen am diogelwch nwyddau gwyn i gael mwy o wybodaeth. Lawrlwythwch ein  taflen Gwefrwch eich Ffôn Symudol yn Ddiogel a darllen mwy o Electrical Safety First ar prynnu gwefryddion
  • I gael rhagor o gyngor ac awgrymiadau am ddiogelu eich cartref rhag tanau trydanol a damweiniau ewch i’n gwefan ewch i’n tudalen diogelwch a lles

Cynghorion diogelwch trydanol wrth dreulio mwy o amser gartref

Mae’n debyg eich bod yn treulio ychydig mwy o amser gartref gyda’ch teulu ar hyn o bryd. Ac mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o ddefnyddio mwy o eitemau trydanol wrth i chi weithio a difyrru’r plant. Darllenwch ein cynghorion i weld sut y gallwch chi aros yn ddiogel o gwmpas trydan wrth dreulio amser gyda’ch gilydd.

Gwefrwch eich dyfeisiadau trydanol ar wynebau caled, gwastad

  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich teulu’n gwefru eu dyfeisiau a’u teclynnau ar welyau, soffas neu arwynebau meddal eraill. Gall y rhain orboethi’n gyflym, gan gynyddu’r risg o dân.

Tynnwch y plygiau gwefrau ar ôl i chi orffen eu defnyddio

  • Peidiwch â gadael i’ch dyfeisiau gwefru am fwy o amser sy’n angenrheidiol. Gall hyn niweidio’r batri neu achosi i’r ddyfais gorboethi ac achosi tân.

Peidiwch â gorlwytho socedi

  • Gallai cebl estyniad fod â sawl soced, ond nid yw’n golygu y dylid eu defnyddio Defnyddiwch cyfrifiannell ar-lein i weld beth sy’n ddiogel.

Byddwch yn ofalus o gwmpas ceblau

  • Peidiwch â cheisio trwsio unrhyw ddifrod eich hun (ni fydd tâp dwythell yn gwneud) gwnewch yn siwr eu bod nhw’n cael eu cadw’n daclus i osgoi’r risg o faglu.

Cadwch eich “desg” yn daclus

Mae’n debygol eich bod chi’n gweithio yn wagle llai na rydych chi wedi arfer gyda. Sicrhewch rydych chi yn cadw diodydd i ffwrdd o eich gliniadur a’ch ffon symudol – mae hylif a thrydan ddim yn cymysgu! Darllenwch mwy o Diogelwch Trydanol yn Gyntaf am Ddiogelwch Gweithio Gartref.

Byddwch yn ofalus os ydych chi’n defnyddio gwresogyddion cludadwy i gynhesu

  • Gwnewch yn siŵr fod deunyddiau fflamadwy yn cael eu cadw oddi wrthynt a pheidiwch â’u ymlaen pan nad ydych o gwmpa

Cadwch lygad barcud ar yr offer trydanol y mae’r plant yn eu defnyddio

  • Not just screen time; ensure they’re charging correctly and following safe use guidelines. Nid amser wrth y sgrin yn unig; gwnewch yn siwr eu bod nhw’n gwefru yn y ffordd gywir ac yn dilyn canllawiau defnyddio’n ddiogel.

Helpwch y plant gyda’u gwaith cartref

Dilynwch gyngor diogelwch trydan wrth wneud gwaith cynnal a chadw

  • Now might seem like a good opportunity to undertake tasks you’ve been putting off – read these Gall nawr ymddangos fel cyfle da i ymgymryd â thasgau rydych chi wedi bod yn eu hosgoi – darllenwch yr awgrymiadau hyn Diogelwch yn yr Ardd a Cynnal a Chadw Trydannol i gael mwy o wybodaeth.

Peidiwch â gadael i’ch sylw grwydro yn y gegin

  • Pan fyddwch chi’n coginio, gall fod yn hawdd i aelodau’r teulu, galwadau ffôn a negeseuon e-bost, dynnu eich sylw — peidiwch â gadael i bethau barhau fyrlymu o hyd ar yr hob neu yn y tostiwr. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer ein hawgrymiadau Diogelwch Coginio.

Byddwch yn ofalus wrth siopa ar-lein

  • Os ydych chi’n gofalu ar ôl y ceiniogau ac yn chwilio am fargen drydanol ar-lein, gofalwch wrth bwy rydych chi’n prynu. Defnyddiwch y Teclyn gwirio i’ch helpu i ddysgu am beryglon ar-lein.

Cofrestrwch eich Cyfarpar

  • Os ydych gartref gydag ychydig o amser sbâr, beth am wneud yn siŵr bod yr offer trydanol yn eich cartref wedi’u cofrestru, fel y gall y gwneuthurwr gysylltu â chi os bydd problem. Ewch i electricalsafetyfirst.org.uk/registration i ddarganfod mwy.