Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“GTADC”) yn ymrwymedig i weithredu mewn modd agored a thryloyw.

Mae GTADC yn cyhoeddi swm sylweddol o wybodaeth ynghylch ei berfformiad a’i gyllid ac ati ar y wefan hon. Er enghraifft, yn ein Llyfrgell Cyhoeddiadau a’n tudalennau Ein Perfformiad.

Fodd bynnag, os yw’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdano ddim wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan ar hyn o bryd ac rydych chi’n dymuno gwneud cais am wybodaeth, ewch at ein tudalen Deddf Rhyddid Gwybodaeth.  Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“Y Ddeddf”) yn darparu hawl cyffredinol at fynediad i wybodaeth a ddelir gan Awdurdodau Cyhoeddus gan gynnwys GTADC. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (“Y Rheoliadau”) yn darparu hawl cyffredinol at fynediad i wybodaeth amgylcheddol i’r cyhoedd a ddelir gan Awdurdodau Cyhoeddus. Mae’r hawliau cyffredinol hyn at fynediad yn amodol ar rai cyfyngiadau gweithredol a sylweddol, er enghraifft, pan fydd gwybodaeth ar gael yn barod naill ai drwy law’r wefan hon, neu mewn rhyw fodd arall. Mae’r Ddeddf a’r Rheoliadau yn cwmpasu unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddelir gan Awdurdod Cyhoeddus. Mae gwybodaeth gofnodedig yn cynnwys dogfennau wedi’u hargraffu, ffeiliau cyfrifiadurol, llythyrau, e-byst, ffotograffau a/neu recordiadau fideo.

Nid yw’r Ddeddf na’r Rheoliadau yn rhoi mynediad i bobl at eu data personol nhw eu hunain. Mae gan unigolion hawl at fynediad i ddata personol amdanyn nhw eu hunain o dan gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy’n gymwys o fewn y Deyrnas Gyfunol – gweler ein Rhybudd Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’r hawl i godi tâl am wasanaethau arbennig drwy law Adran 18A o’r Ddeddf Gwasanaethau Tân 2004. Mae GTADC yn codi tâl am fynediad at wybodaeth fwy cynhwysfawr a manwl sy’n ymwneud â digwyddiadau a fynychwyd, fel yr hyn sy’n gyffredin ymysg gwasanaethau tân ac achub.

Gan fod gwybodaeth am ddigwyddiadau yn weddol gyrchadwy drwy law ffyrdd eraill, er mai dim ond wrth dalu’n unig y ceir mynediad, bydd ceisiadau am Adroddiadau Digwyddiadau neu Ymchwiliadau i Dân o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cael eu gwrthod o dan Adran 21 (h.y. gwybodaeth sy’n gyrchadwy i’r ymgeisydd drwy fodd arall), a chan fod yr eithriad hwn yn absoliwt, nid yw’n amodol ar brawf lles y cyhoedd.

Mae’r agwedd hon o godi tâl gan wasanaethau tân ac achub wedi’i hadolygu a’i gymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ôl tystiolaeth Penderfyniad Rhybudd FS50859031.

Yn aml, mae data personol o fewn Adroddiadau i Ddigwyddiadau ac Ymchwiliadau i Dân yn gyfyngedig ac yn ymwneud yn arferol ag unrhyw ddioddefwyr a all fod wedi’u hanafu mewn digwyddiad. Fel arfer, gallwn ddatgelu gwybodaeth i feddiannwr eiddo, gyrrwr cerbyd neu rywun sy’n cynnal busnes ar safle ar adeg y digwyddiad yn unig. Fodd bynnag, yn aml rydym yn deall mai’r landlord/asiant gosod neu yswirwyr fydd yn rhoi cais am yr adroddiad – yn yr achosion hynny, gallwn ryddhau’r adroddiad, ar yr amod fod gennym ganiatâd yr unigolion hynny. Os oes amryfal bobl yn gysylltiedig â’r digwyddiad, mae angen caniatâd gan bob unigolyn i ryddhau fersiwn sydd heb ei hailolygu, pe bai’n cynnwys eu data personol – neu sail gyfreithiol arall er mwyn datgelu eu data personol.  Mae hyn yn hanfodol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac amddiffyn ymyrraeth ddiangen â phreifatrwydd pobl.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan unigolion hawl i gopi o’u data personol eu hunain yn unig. Nid yw’n rhoi hawl iddynt am gopi o ddogfennau gwreiddiol neu wybodaeth nad sy’n ymwneud â hwy fel unigolyn dynodedig.

Os ydych yn chwilio i roi cais am adroddiad am ddigwyddiad neu adroddiad ymchwilio i dân, gwelwch ein tudalen Adroddiadau am Ddigwyddiad a’n Hadroddiadau Ymchwilio i Dân am ragor o wybodaeth.