Mae’r Cynllun Awdurdod Sylfaenol yn agored i bob busnes ac mae’n golygu y gall eich busnes ffurfio partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gael cyngor arbenigol ar faterion diogelwch tân.

Beth yw’r Cynllun Prif Awdurdodau?

Bwriad y Cynllun Prif Awdurdodau (CPA) yw lleihau’r bwrn rheoleiddio ar fusnesau a hyrwyddo prosesau archwilio a gorfodi cyson ac effeithiol.

O dan y cynllun, mae busnesau sy’n masnachu ar draws ffiniau awdurdodau lleol yn cael cyngor ac arweiniad cydymffurfio ‘Sicr’ gan arolygwyr tân un awdurdod tân, sef yr Awdurdod Partner.

Diben hyn yw cytuno ar gamau gweithredu diogel gyda rhesymeg glir a sicrhau bod gan yr holl awdurdodau gorfodi fynediad i’r rhain er mwyn osgoi gorfod ymdrin â phob awdurdod gorfodi ar ei ben ei hun.

Mae ar gael i unrhyw fath o fusnes ac fe’i gweinyddir gan y Swyddfa Ddiogelwch a Safonau Cynnyrch.

Nod y CPA yw bod gwasanaethau tân ac achub yn datblygu partneriaethau effeithiol gyda busnesau er mwyn sicrhau cysondeb cenedlaethol wrth ddarparu cyngor ar ddiogelwch tân a gweithgareddau rheoleiddio.

 

Beth yw’r manteision?

Manteision dod yn aelod o bartneriaeth CPA yw:

  • Gallwch gael mynediad at gyngor diogelwch tân perthnasol, awdurdodol, pwrpasol.
  • Gallwch gael cydnabyddiaeth o drefniadau cydymffurfio cadarn.
  • Gallwch ddefnyddio dulliau sefydledig ac effeithiol o fodloni rheoliadau busnes.
  • Gallwch fod yn fwy hyderus eich bod yn diogelu eich busnes a’ch cwsmeriaid.
  • Gellir blaenoriaethu materion diogelwch tân i sicrhau bod yr arian a werir yn y maes hwn yn rhoi’r gwerth gorau i chi.

 

Yn ogystal â derbyn cyngor sicr, gall Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd lunio cynllun arolygu ar gyfer eich busnes er mwyn gwella’r broses o rannu gwybodaeth ac effeithiolrwydd unrhyw ymweliadau rheoleiddio a gewch gan y gwasanaethau tân ac achub.

 

 

Sut ydw i’n cofrestru?

Mae dau fath o bartneriaeth, partneriaeth uniongyrchol neu bartneriaeth gydgysylltu.

Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru bartneriaethau CPA gyda’r sefydliadau canlynol:

  • A. Brain Cyfyngedig
  • Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Liberty Living
  • Castle Leisure Limited

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru cysylltwch â’n Hadran Diogelwch Tân Busnes i drefnu cyfarfod lle gellir trafod y pwyntiau canlynol:

  • Cwmpas y bartneriaeth a sut y bydd yn cael ei rheoli.
  • Adennill costau a thelerau talu. Ar hyn o bryd, mae GTADC yn un o’r Awdurdodau Sylfaenol diogelwch tân sy’n codi tâl isaf, ac o bosib yr un sy’n codi’r tâl isaf oll.

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio gyda chi i’ch arwain drwy’r broses a sicrhau bod y manylion yn cael eu cadw’n gyfredol os bydd pethau’n newid.

 

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, mae croeso i chi gysylltu drwy law e-bost diogelwchtan@decymru-tan-fire.gov.uk neu cysylltwch â’n Hadran Diogelwch Tân Busnes – 01443 232520

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

Swyddfa Ddiogelwch a Safonau Cynnyrch

Awdurdodau Sylfaenol: Canllaw i Fusnesau

Awdurdod Sylfaenol: Canllaw i Gymdeithasau Masnach

Awdurdodau Sylfaenol: Telerau Ac Amodau:

Canllaw’r Awdurdodau Sylfaenol

Cofrestr yr Awdurdodau Sylfaenol