Cyngor i Dirfeddianwyr am Losgiadau Rheoledig

Mae’r dudalen hon yn rhoi cyngor ar losgi dan reolaeth i ffermwyr, tirfeddianwyr a busnesau. Dylai deiliaid tai ymweld â’n tudalen tanau gardd yn lle hon.

Ydych chi’n bwriadu llosgi dan reolaeth ar eich tir?

Cofiwch fod y cyfnod llosgi rhwng y 1af o Dachwedd a’r 15fed o Fawrth – o’r Wawr hyd Fachlud Haul.

Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddarganfod yn llosgi y tu allan i’r Cyfnod Llosgi (Tachwedd tan Fawrth) yn cael ei erlid a gallai effeithio ar eich Taliadau Sengl gan Lywodraeth Cymru.

Peidiwch â llosgi sbwriel. Gall llosgi sbwriel arwain at gael eich erlid gan Gyfoeth Naturiol Cymru, eich Awdurdodau Lleol, neu’r Heddlu.

Er mwyn cynnal llosgi dan reolaeth mae angen i chi gael Cynllun Llosgiadau – cewch weld Cynllun Llosgi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Hyd yn oed yn ystod y Cyfnod Llosgi (Tachwedd hyd Fawrth) chewch chi ddim llosgi rhwng Machlud Haul a’r Wawr.

Cynlluniwch eich llosgi a sicrhewch fod digon o adnoddau ar gael i sicrhau y gellir ei reoli’n effeithiol a’i ddiffodd os bydd angen.

Dilynwch y camau hyn ar gyfer llosgi dan reolaeth:

  1. Dylech roi gwybod i ni BOB AMSER cyn i chi gynnal Llosgi dan Reolaeth ac ar ôl i’r llosgi ddod i ben. Cysylltwch â’n llinell gymorth Llosgi dan Reolaeth ar 01268 909408.
  2. Rhowch wybod i’ch cymdogion a sicrhewch fod unrhyw dda byw mewn man diogel ac allan o ffordd llwybr tân.
  3. Ystyriwch dorri allan ‘atalfa dân’ i rwystro’r tân rhag lledu. Llosgwch ddim ond ardal fach ar y tro, er mwyn ei gadw dan reolaeth.
  4. Mae tanau glaswellt yn anrhagweladwy dros ben a gallant fynd allan o reolaeth o fewn munudau.
  5. Bydd tân yn teithio i lan rhiwiau yn gyflymach ac yn llosgi’n ddwysach nag y mae wrth fynd i lawr rhiw.
  6. OS YDYCH CHI’N EI GYNNAU PEIDIWCH Â’I GADAEL! Eich cyfrifoldeb chi yw e!

Os bydd y tân yn mynd yn beryglus a’ch bod chi ac eraill mewn perygl, cysylltwch â 999 mewn argyfwng.