Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymroi i ddiogelu ein cymunedau a lleihau marwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau a sefyllfaoedd brys eraill.

Mae gostwng anafiadau o’r fath yn llawer mwy na chynnig gwasanaeth ymateb brys effeithiol. Mae’n ymwneud ac addysgu er mwyn atal y mathau o ymddygiad sy’n arwain at y sefyllfa yn y lle cyntaf. Mae’r Adran Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau yn darparu’r addysg hwn drwy nifer o fentrau. Maent yn amrywio o ymweliadau lles a diogelwch AM DDIM i ymgysylltu â phobl ifanc ac ymgyrchoedd Diogelwch ar y Ffyrdd.

Mae’r adran hefyd yn bartner statudol ym Mhartneriaethau Diogelwch Cymunedol yr Awdurdodau Lleol ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Gwasanaethau Prawf a’r Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn targedu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o ran tanau a gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yn effeithiol.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a gynigiwn a’r mentrau yr ydym yn eu hwyluso ar gael drwy’r dolenni penodol ar y safle.

Mae gan Awdurdodau Cyrifol ddyletswydd statudol i weithio gydag asiantaethau a sefydliadau lleol eraill i ddatblygu a gweithredu strategaethau i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau eraill o ymddygiad sy’n effeithio er gwaeth ar yr amgylchedd lleol. Yng Nghymru, gelwir y partneriaethau statudol hyn yn Bartneriaethau Diogelwch Statudol.

Y ddeddfwriaeth sy’n galluogi’r gwaith hwn yw Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn hybu’r ymarfer o weithio mewn partneriaeth er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn ac mae’n rhoi dyletswydd statudol ar yr heddlu ac awdurdodau lleol i ddatblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau yn eu hardal.  Wrth wneud hyn, mae’n ofynnol i’r awdurdodau cyfrifol weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o grwpiau lleol cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol a gyda’r gymuned ei hun.

Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 yn nodi pwy yw’r awdurdodau cyfrifol:

  • Yr Heddlu
  • Awdurdodau Heddlu
  • Awdurdodau Lleol
  • Awdurdodau Tân
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Gwasanaethau Prawf

Gan weithio â’r partneriaid eraill hyn, bydd rhaid i’r heddlu a’r awdurdod lleol lynu at y cylch canlynol o ddigwyddiadau, gyda’r cylch yn para tair blynedd pob tro:

  • cynnal a chyhoeddi archwiliad o broblemau trosedd ac anhrefn lleol, gan ystyried barn y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn eu hardal
  • pennu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu
  • cynllunio a chyhoeddi strategaeth sy’n mynd i’r afael â’r problemau blaenoriaeth hyn, yn cynnwys amcanion a thargedau
  • monitro cynnydd, diwygio’r strategaeth fel bo angen