Cyngor, Dogfennau ac Adnoddau i’w Lawrlwytho

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n deall bod busnesau’n wynebu cyfnod heriol ac mae’r cyngor Diogelwch Tân canlynol wedi’i gynllunio i sicrhau bod eich safle a’r holl bobl a all ei ddefnyddio mor ddiogel â phosibl rhag effeithiau tân.

Mae’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Bersonau Cyfrifol i sicrhau bydd yr holl bobl berthnasol sydd ar eu safle neu yng nghyffiniau’r safle yn ddiogel rhag tân. Mae’r cyfrifoldebau a’r mesurau diogelwch hyn wedi’u cynllunio i ddiogelu bywyd yn gyffredinol, er gwaethaf ymyrraeth y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Dylai’r Personau Cyfrifol sicrhau bod yr asesiad risg tân ar gyfer y safle yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Er enghraifft, lle gallai prinder staff effeithio ar unrhyw strategaeth wacáu a gynlluniwyd ymlaen llaw neu lle mae stoc a gwastraff wedi cynyddu ac angen eu rheoli.

Bellach, nid yw Swyddogion Diogelwch Tân yn cynnal ymweliadau arferol ond byddant yn ymateb i gwynion, tanau a’r holl waith brys arall sy’n ymwneud â diogelu bywyd. Darperir yr offer gwarchod personol cywir i’n holl Swyddogion Diogelwch Tân os oes angen iddynt fynychu.

Bydd ein Tîm Diogelwch Tân Busnes yn parhau i gyflawni eu rolau statudol fel rheolyddion eiddo annomestig. Fodd bynnag, bydd gweithgareddau yn cael eu mireinio er mwyn blaenoriaethu’r risgiau posibl mwyaf a gall galwadau ffôn gymryd lle rhai ymweliadau. Os oes gennych gwestiwn Diogelwch Tân Busnes, gallwch ddal i gysylltu â’n staff ar 01268 909408 neu diogelwchtan@decymru-tan.gov.uk . I adrodd pryder diogelwch tân, cewch ddefnyddio’r ffurflen sydd ar gael ar https://www.decymru-tan.gov.uk/your-safety-wellbeing/in-business/report-fire-safety-concern/

Os bydd eich eiddo busnes yn wag am gyfnod, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn argymell bod yr eiddo’n ddiogel rhag tân, (e.e. ystyriwch gael gwared ag unrhyw ffynonellau tanio posib) a’i wneud yn ddiogel er mwyn atal cynnau tân bwriadol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yma i’ch cefnogi chi a’ch busnes yn ystod y dyddiau digyffelyb hyn a gobeithio y cawn oll yn ‘dychwelyd at fusnes yn yr arfer’ yn y dyfodol agos.

 

Mae’r canllawiau canlynol ar gael i’w lawrlwytho:


Asesiadau Risg Diogelwch Tân (cyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol):


Adnoddau i helpu gyda chwblhau eich asesiad risg tân:

 

Dogfennau canllaw ychwanegol i’ch helpu chi i reoli diogelwch tân:

 

Dogfennau cyngor parhad busnes:

 

Llyfr Log

  • Er mwyn cynnal arfer gorau dylid diweddaru’r llyfr log gan gall yr Awdurdod Tan ac Achub ei archwilio. Lawrlwythwch yma

 

Dolenni defnyddiol: