Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad annibynnol gan Fenella Morris CB ar ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y 3ydd o Ionawr, a amlygodd ymddygiad gwahaniaethol a chamdriniol eang ar bob lefel yn ogystal â methiannau sylfaenol difrifol o ran arweinyddiaeth a rheolaeth, defnyddiwyd grymoedd gan Lywodraeth Cymru, o dan gyfarwyddyd y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol o dan Adran 29(5) a (6) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, i ddileu swyddogaethau llywodraethu’r Awdurdod Tân a’u trosglwyddo i bedwar Comisiynydd penodedig.

 

Rhoddwyd cyfrifoldeb i’r Comisiynwyr sicrhau bod argymhellion Fenella Morris CB yn cael eu gweithredu’n llawn ac yn gynaliadwy, yn ogystal â gweithredu ar argymhellion Prif Gynghorydd Tân ac Achub Llywodraeth Cymru. Bydd ganddynt rymoedd llawn i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth y Gwasanaeth a sefydlu diwylliant cadarnhaol, anwahaniaethol.

 

Y Comisiynwyr yw:

Carl Foulkes (Cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru)

Vij Randeniya (Cyn-Brif Swyddog Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr)

Y Farwnes Wilcox o Gasnewydd (Cyn Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd)

Kirsty Williams (Cyn-Aelod o’r Senedd a’r Gweinidog Addysg)

 

“Gwyddem fod hwn yn gyfnod anodd ac ansefydlog i staff, rhanddeiliaid, a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae hon yn adeg dyngedfennol i’r Gwasanaeth, ac yn gyfle i wneud newidiadau gwirioneddol a chynaliadwy sy’n ailsefydlu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel sefydliad sy’n cyflawni’n dda ac yn bartner o ddewis.”

 

“Dyma’r amser i’r bobl ddawnus o fewn GTADC ymuno â ni fel Comisiynwyr, a gweithio gyda’n gilydd i gyflawni’r agenda heriol hon ar gyfer gwella yn gyflym a chydag empathi. Byddwn yn parhau yn y swydd nes bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn amlwg yn weithle cynhwysol a chroesawgar i bawb, gyda’r strwythurau arweinyddiaeth a llywodraethu i gefnogi’r ymrwymiad hwnnw.”

 

“Ond yn gyntaf, mae angen i ni ddod i’ch adnabod chi a’r Gwasanaeth. I’r perwyl hwnnw, rydym wedi dechrau cyfres o ymweliadau a sgyrsiau, lle byddwn yn estyn allan i’r sefydliad cyfan yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”

 

cylch gorchwyl.

 

Papurau Bwrdd y Comisiynwyr:

Papurau’r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio

Fideos Cyfarfod:

Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Yn dilyn gweithredu “Cyfarwyddiadau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (Arfer Swyddogaethau)(Cymru) 2024” ar y 5ed o Chwefror 2024, rhoddodd yr Awdurdod Tân ac Achub y gorau i gyflawni ei ddyletswyddau, sydd erbyn hyn yn cael eu cyflawni gan Gomisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth am Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, dilynwch y dolenni isod: