Ysgrifennwyd y dudalen hon gan weithwyr gwrywaidd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda’u darpar gydweithwyr mewn ystyriaeth.

Niluka Eratne
Peiriannydd TGCh

Fy enw yw Nilks ac rwy’ wedi bod yn gweithio fel Peiriannydd TGCh i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ers 2015. Rwy’n gweithio mewn amgylchedd heriol, yn sicrhau fod anghenion TGCh Gorsafoedd a Swyddfeydd yn rhedeg mor effeithiol â phosib. Wrth wneud hyn, mae fy adran yn chwilio i wella defnydd TGCh o fewn y Gwasanaeth yn barhaus i wneud ein gwasanaeth i’r defnyddiwr y gorau y gall fod. Adran hynod amrywiol ydym ac mae gennym ran fawr iawn i’w chwarae ym mhob agwedd o’r Gwasanaeth. Fe’n gwelir ni fwyaf aml yn y cefndir, ond rydym yn hanfodol yng ngweithrediad dydd i ddydd y sefydliad.

Yn gyfredol, fe’m lleolwyd yn yr adran Gyfathrebu, yn gweithio â’r cyfarpar critigol gogyfer peiriannau Tân ac Ymladdwyr Tân, fel bydd y dechnoleg a ddefnyddiwn, mewn achosion brys, yn llyfn a diwnïad fel y cawn fynychu digwyddiadau ar gyflymdra ac â chywirdeb cyfansymiol. Mae’n hynod foddhaol i wybod, er nad ydym ar flaen y gad mewn digwyddiad brys, fod yr hyn a gyflawnwyd gennym yn y cefndir yn hanfodol wrth sicrhau fod y cyhoedd yn derbyn yr ymateb sydd ei angen ac a ddisgwylir gan wasanaeth argyfwng.

Mae gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn fy ngwneud i’n falch iawn ac rwyf yn wirioneddol mwynhau dod i’r gwaith bob dydd. Mae gweithio o fewn cymaint o wahanol adrannau sydd ag anghenion gwahanol yn her fawr, ond mae’n un y mae pob aelod o’r tîm TGCh yn ffynnu arno. Edrychaf ymlaen at weithio am lawer mwy o flynyddoedd â GTADC i wella a datblygu’r defnydd o TGCh i wneud ein Gwasanaeth ymddangos gyda’r gorau.

 

Norman Rees
Rheoli Tan 

Fy enw i yw Norman Rees ac rwy’n dad i efeilliaid prydferth, un bachgen ac un ferch, yn ogystal â bod yn berchen ar fy nghi Labrador, Ffloyd. Rwyf wedi gweithio o fewn Rheoli Tân am 24 mlynedd. Pan fyddwch yn galw 999 ar gyfer y Gwasanaeth Tân, byddwch chi’n siarad â fi neu un o’m cydweithwyr ac rydym yn gyfrifol am ddanfon yr adnoddau i le bydd eu hangen. Ni yw’r bobl gyntaf fydd y cyhoedd yn siarad â nhw pan fydd angen help arnynt.   Ar hyn o bryd, rwy’n Rheolwr Criw o fewn Atal a Diogelu. Mae fy nyletswyddau’n cynnwys cysylltu â chriwiau gweithredol i gael polisïau a gweithdrefnau’n gywir fel y gallwn roi’r gwasanaeth gorau i’r cyhoedd a chadw ein criwiau’n ddiogel. Rwyf hefyd yn delio ag amddiffyn pobl sy’n agored i niwed o fewn y gymuned ynghyd â gweithio gydag asiantaethau eraill i gael yr help sydd angen arnynt i’w cadw rhag niwed.

 

Does dim dau ddiwrnod sy’n debyg o fewn Rheoli Tân. Efallai gallwn fod yn delio â thanau gwyllt un dydd a’r diwrnod nesaf â llifogydd. Does dim modd o wybod beth fydd yr alwad nesaf ac mae hyn yn rhan o beth sy’n gwneud i’r swydd yma fod mor wahanol i unrhyw un arall. Rwyf wedi bod yn lwcus i gael cydweithio â chymaint o bobl ddisglair dros y blynyddoedd ac wedi dysgu gan bob un ohonynt.

 

Ar ôl 24 mlynedd yn y swydd a welodd nifer o newidiadau o ran technoleg, lleoliadau a phobl, mae modd i mi ddweud, iawn, beth fyddwn ni’n gwneud nesaf ac ymlaen at her arall.

 

Stuart Brock
Ymgynghorydd Diogelwch Tân

Helo, Stuart Brock ydw i. Ymunais â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 11 mlynedd yn ôl a gweithiais mewn ystod o rolau ac adrannau gwahanol o fewn y Gwasanaeth tra’n cael y cyfle i ddatblygu fy ngyrfa drwy’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol a ddarperir gan y Gwasanaeth. Yn gyfredol, fi yw Rheolwr Gwylfa’r Wylfa Las yn Aberbargod.

Mae bywyd yr wylfa’n hynod amrywiol. Does dim dau ddiwrnod sy’n debyg, sef beth rwy’n hoffi’n fawr ynghylch fy rôl. Mae dyletswyddau’n ymestyn o lanhau offer, cynnal cymhwysedd gweithredol drwy hyfforddiant i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau i’r rhai hynny sydd angen ein help, i gwrdd ag aelodau’r cyhoedd gan ddarparu cyngor ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys sut i gadw pobl yn ddiogel rhag gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd neu danau yn y cartref.

Fel Rheolwr Gwylfa, fi sy’n gyfrifol am ddelio â’r amrywiaeth o ddigwyddiadau gweithredol a fynychwyd gennym a hefyd rwy’n gyfrifol am redeg yr wylfa o ddydd i ddydd. Rwy’n mwynhau’n fawr gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub pwrpasol a phroffesiynol a delio â’r amrywiaeth o heriau dyddiol a wynebir gennyf. Mae ymgysylltu â’r gymuned yn agwedd bwysig o’m rôl sy’n fy nghaniatáu i gyfrannu at leihau risg drwy wahanol ffyrdd i helpu diogelu cymunedau o fewn gwasanaeth tân cyfredol.