Rydym yn creu gweithle lle mae pobl yn cael eu cefnogi i fod yr hyn ydynt mewn gwirionedd, ac mae ein hesiamplau rôl LHD yn allweddol wrth wneud hyn. Po fwyaf diogel y bydd staff yn teimlo o ran bod yn hwy eu hunain, po fwyaf cyfforddus maent yn teimlo wrth siarad yn agored am eu bywydau/teuluoedd, gan wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o #TimDeCymru, gorau oll i ni i gyd o ran cyflawni ein potensial fel boddau dynol

Lloyd Ketcher
Gweithredwr Rheoli Tân

Shwmae. Lloyd dw i a dw i wedi gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ers ychydig dros ddeuddeg o flynyddoedd.

Rwy’n gweithio fel Rheolwr Crew yn yr Adran rheoli argyfwng ar y Cyd. Fy rôl gyfredol yw Rheolwr Gwylfa gyda’r Tîm Systemau, fodd bynnag, rwyf hefyd yn cefnogi’r Ystafell Argyfwng o fewn yr Adran Rheoli Tân. Mae tîm Systemau’n rheoli ac yn gweinyddu’r system Gorchymyn a Rheoli y mae’r Ystafell Rheoli Tân yn ei defnyddio i gofnodi galwadau brys a rheoli digwyddiadau. Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth am risg yn gywir ac yn gyfoes a’i bod yn cael ei hanfon at ein criwiau, yn ogystal â chyflenwi i’r Ystafell Reoli.

Os byddwch chi’n gweithio i sefydliad megis GTADC, byddwch chi’n cael cefnogaeth lawn os byddwch yn nodi eich bod yn LHDT+. Mae grwpiau rhwydwaith o fewn y sefydliad y gallwch droi atynt. Ar hyd fy ngyrfa rwyf wedi cael fy nghefnogi gan y Gwasanaeth i fynychu digwyddiadau Stonewall a Pride Cymru. Mae hyn wedi rhoi’r wybodaeth a’r hyder i mi ddod yn esiampl LHDT+ ac mae wedi fy helpu i gefnogi cydweithwyr eraill.

Rwyf hefyd yn aelod o adran LGBT Undeb y Frigâd Dân. Mae hyn wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i mi gydol fy Ngyrfa. Rwyf wedi mynychu Ysgolion Cenedlaethol ledled y DU lle mae diffoddwyr tân ac aelodau FBU Rheoli Tân yn cyfarfod i ddysgu am faterion LHDT+ yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Rwyf hefyd wedi mynychu amryw o ddigwyddiadau Pride ledled y wlad yn cynrychioli GTADC a’r UBT

 


Georgina Gilbert
Ymladdwraig Tân, Penarth

George yw fy enw i, ac rwy’n Ymladdwr Tân gyda gorsaf dân Penarth. Rydw i wedi bod yn Ymladdwr Tân yn GTADC ers tua 2013, ond wnes i ddim dechrau fy ngyrfa yn y frigâd hon. Ymunais â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2000 ac o ganlyniad i symudiad tai ac amgylchiadau personol, penderfynais ei bod yn bryd i mi weithio’n nes adref a chael cydbwysedd gwell rhwng fy mywyd personol a bywyd gwaith – yn y bôn, llai o gymudo….. Mae fy mhenderfyniad i drosglwyddo i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn un nad wyf erioed wedi edifarhau yn ei gylch.

Gyda GTADGC doeddwn i ddim wedi ‘datgan’ fy mod i’n fenyw hoyw. Dw i ddim siwr pam, ond efallai na chefais erioed y cyfle i gael y drafodaeth honno gyda’m cydweithwyr ac wrth i amser fynd yn ei blaen, mae’n mynd yn anoddach gwneud. Ar ôl i mi drosglwyddo i GTADC penderfynais ddechrau o’r dechrau a bod yn agored o ran fy rhyw, sy’n eithaf anodd mewn amgylchedd newydd gyda chydweithwyr newydd. Fodd bynnag, roeddwn i’n gwybod pe na fyddwn yn gwneud hynny, y byddwn i yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i pan oeddwn i gyda GTACGC! Dydw i ddim yn un sy’n ‘dweud’ wrth bobl a doeddwn ni byth yn disgwyl i bobl ofyn, cymryd yn ganiataol na rhagdybio. Wedi’r cyfan, dydyn ni ddim yn tueddu i ofyn i bobl a ydynt yn heterorywiol, nac ydym! Cynnwys y wybodaeth hon mewn sgwrs bob dydd oedd y penderfyniad gorau a wnes i. Roedd fy nghydweithwyr yn derbyn y wybodaeth fel digwyddiad arferol ac roedd hyn, fel y gallwch ddychmygu, yn gysur mawr wrth imi ddechrau ar fy ngyrfa newydd gyda gwasanaeth gwahanol.

Mae bod yn Ymladdwr Tân yn gofyn eich bod chi’n ddeinamig, yn gallu cydymdeimlo, yn ddewr, yn ofalgar, yn gryf, yn gorfforol ffit, yn emosiynol ac yn chwaraewr tîm. Mae bod yn BOB UN o’r pethau hyn yn cymryd amser ac ni all neb gyflawni hyn oll ar unwaith. Mae’n rhaid dysgu rhai ohonynt tra bod rhinweddau eraill yn naturiol. Fodd bynnag mae’n bwysig i’r holl Ddiffoddwyr Tân sydd eisiau cyflawni eu swyddi gorau y gallant fod yn agored i ddysgu sgiliau newydd a chyffrous, gan gynnwys y rhestr o emosiynau a nodwyd uchod. Pan ymunais â’r gwasanaeth, roeddwn i’n gryf ac yn heini a gan fod gan fy mod i wedi gweithio gyda cheffylau yn y gorffennol, roedd rhaid i mi ddysgu’r holl bethau ychwanegol hyn yn gyflym. Mae gan bawb gryfderau a gwendidau penodol. Y gyfrinach yw adnabod y sawl y mae angen gweithio arnynt ond yn bennaf oll, rhaid i chi gredu ynoch eich hun er mwyn cyflawni. Pan fyddwch yn cael eich gwylfa gyntaf, byddwch yn dysgu bod gan bob un ran i’w chwarae a bod pawb yn cyfrannu at gynnal y peiriant yn effeithlon – byddwch chi’n dysgu’n fuan pa ran rydych chi’n ei chwarae, beth rydych chi’n ei wneud yn dda a beth sydd angen i chi ei wella!

Os ydych chi’n chwilio am swydd a fydd yn gwneud i chi deimlo’n gyffrous, yn falch, yn ofnus ar adegau ac yn fywiog, lle byddwch chi’n cael eich cynnwys a’ch gwerthfawrogi ac yn chwaraewr tîm, gallwch roi’r gorau i chwilio. Dyma hi. Faint o swyddi ydych chi’n gwybod amdanynt sy’n cynnig i chi gyfle i ddiffodd tân, torri ceir, cyfrannu at ddiogelwch cymunedol, achub o ddŵr, trin cychod, achub â rhaff a llawer mwy yn ogystal â llwybr gyrfa ar ben hyn oll.