Wrth adael y Llynges Frenhinol ym 1993, ymunodd Carl â Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn Llundain a gwasanaethodd mewn rolau gwisg nes cyrraedd rheng Prif Arolygydd y brifddinas. Fel aelod o’r tîm gweithrediadau arbenigol, cafodd ei gydnabod am ei waith yn Potters Bar, Hatfield, a damweiniau rheilffordd Selby, yn ogystal â digwyddiadau trefn gyhoeddus arwyddocaol yn Bradford a Llundain.

 

Trosglwyddodd i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2003, lle gweithodd mewn rolau amrwywiol fel swyddog gwisg ac aelod o’r Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) nes cyrraedd swydd Prif Gwnstabl Cynorthwyol.

 

Cafodd Carl ei ddyrchafu’n Ddirprwy Brif Gwnstabl Glannau Mersi yn 2014, lle buodd yn atebol am ddarparu plismona o ddydd i ddydd yn ogystal â pherfformiad yr heddlu yn erbyn y cynllun plismona.

 

Cyrhaeddodd ei frwdfrydedd dros amrywiaeth lefel genedlaethol pan arweiniodd dull plismona’r DU mewn perthynas ag ymdrin â rhywedd.

 

Daeth Carl adref i Gymru yn 2018 fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, lle roedd e’n gyfrifol am swyddogion, staff yr heddlu yn ogystal â gwirfoddolwyr yn gwasanaethu cymunedau Gogledd Cymru.

 

Cymerodd Carl gyfrifoldeb arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer y rhaglen genedlaethol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ddiweddar.

 

Arweiniodd Carl ymateb plismona’r DU i’r fenter “HeForShe” gan weithio gyda phortffolio “menywod” y Cenhedloedd Unedig i wella plismona o fewn y DU a ledled y byd ill ddau.

 

Roedd yn anrhydedd mawr i Carl dderbyn Medal Heddlu’r Frenhines yn 2019 am wasanaethau i blismona. Ar ôl ymddeol o blismona ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth ym mis Hydref 2022 mae Carl yn parhau i weithio yn y sector cyhoeddus ar amrywiaeth o brosiectau megis cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymuno â phlismona, arwain gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddatganoli’r Heddlu, a darlithio ar amrywiaeth, cydraddoldeb, a chynhwysiant. Mae Carl hefyd yn gadeirydd ymddiriedolwyr elusen leol yng Ngogledd Cymru sy’n canolbwyntio ar ddiogelu plant.