Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig o fewn y Gwasanaeth

Gallwn fod yn gyflogwyr gwell ac yn Wasanaeth gwell yn gyffredinol, os ydym yn cynrychioli ein holl gymunedau. Mae staff â chefndiroedd amrywiol iawn o ran ethnigrwydd, treftadaeth a diwylliant yn dod â chyfoeth o brofiad, gwybodaeth a sgiliau yn ogystal â phrofiad bywyd ac mae hyn oll yn ein helpu ni i helpu’r cyhoedd.

Mae tirwedd amrywiol yn helpu gwneud Cymru’n wlad unigryw a gwerthfawr; ac yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, credwn yr un peth am amrywiaeth ein pobl. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y gorau y gallwn fel gwasanaeth gwrdd ag anghenion ein holl gymunedau.

Yn gyfredol, mae 1.4% o’n staff o grwpiau ethnig gwahanol, ac rydym yn dymuno newid hyn yn sylweddol gan ein bod yn credu’n wirioneddol fod angen i wasanaeth mor bwysig â hyn adlewyrchu pawb yr ydym yn eu gwasanaethu.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwireddu ein geiriau; daethom yn aelodau o Stonewall, cynhaliwyd diwrnodau cyrchu i fenywod yn ogystal â phobl o amrywiol gefndiroedd ethnig, mynychwyd digwyddiadau cymunedol megis MELA yng Nghaerdydd, cydweithiwyd ag asiantaethau allweddol fel Race Equality First, ac aethom allan i holi pobl beth maen nhw ei angen gennym.

Er, yn gyfredol, fod gan y Gwasanaeth staff sydd ag amrediad eang o gefndiroedd ethnig – o Asiaid i Pwyliaid – rydym yn annog mwy o bobl yn agored i’n hystyried ni fel cyflogwr posib. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn AD, TGCh, swyddi Gweinyddol, gweithio yn yr Adran Reoli ac wrth gwrs bod yn Ymladdwr Tân, parhewch i gyrchu’r tudalennau Gyrfaoedd a’n swyddi gwag diweddaraf i ddarganfod mwy.


Loukmaan King

Fy enw i yw Loukmaan ac rwy’n 35 oed. Mae gen i dreftadaeth Seisnig a Mauritian ac yn ystyried fy hun yn Gymysg Brydeinig. Rwy’n gwasanaethu ein cymuned fel ymatebwr cyntaf i argyfyngau tân ac achub. Pan nad wyf yn mynychu argyfwng, rwy’n helpu ein cymuned trwy godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar gyfer y risgiau amrywiol sy’n bresennol yn ein cymdeithas. Mae fy rôl yn cyflwyno digon o gyfleoedd i fod yn gymwynasgar a charedig i lawer, sy’n rhoi ymdeimlad mawr o falchder a boddhad swydd i mi.

 

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried ymuno â’n sefydliad a’n tîm gwych i ystyried hynny o ddifrif. Ers ymuno, nid wyf wedi edrych yn ôl.

 

 

 


Melusi Moyo

Fy enw i yw Melusi, rwy’n 23 mlwydd oed ac wedi ennill Gradd mewn Cynaliadwyedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rwy’n ystyried fy hun yn Gymro Du, gan fod fy rhieni wedi cael eu geni yn Zimbabwe a fy mod i wedi cael fy magu yma yng Nghymru.

Mae fy rôl fel Graddedig yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn cynnwys gweithio rhwng dau sefydliad gwasanaeth cyhoeddus, Gwasanaeth Tân De Cymru a Chymdeithas Tai Hafod, i helpu gwella ansawdd gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys cydnabod cyfleoedd ar gyfer cydweithio a dysgu ar y cyd, yn enwedig gweithio ar brosiectau sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd wrth i’r ddau sefydliad weithio tuag at gyrraedd eu targedau datgarboneiddio ac amgylcheddol.

Mae ymuno â’r Gwasanaeth Tân yn gyfle unigryw i weithio’n agos gyda chymunedau ar draws De Cymru. Mae amrywiaeth o rolau ar gael ar draws meysydd gweithredol a chorfforaethol y Gwasanaeth, ac mae’r rhain i gyd yn allweddol i ddiogelu a gwella profiadau’r sawl yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hefyd ddigonedd o gyfleoedd datblygu i barhau i herio’ch hun mewn swyddi newydd ac amrywiol.


Alex Szekely

Fy enw i yw Alex, ac rwy’n ddiffoddwr tân yn Aberbargod. Ymunais â GTADC yn 2010 yn 22 oed. Des i adref o’r ysgol un diwrnod i weld digwyddiadau erchyll 9/11 ar y teledu ac roeddwn i mor ofidus nad oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu. O’r diwrnod hwnnw ymlaen roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bod yn ddiffoddwr tân. Mae fy mam yn dod o Belize CA, mae fy nhad yn Gymro. Rwy’n ystyried fy hun yn Brydeiniwr du.

“Wrth unrhyw un sy’n ystyried swydd o fewn y Gwasanaeth Tân, rwy’n dweud GWNEWCH E! Nid yn unig y mae’n eich gwthio i oresgyn terfynau nad oeddech erioed yn gwybod a oedd gyda chi, ond mae hefyd yn dangos i chi pwy ydych chi fel person. Dyma’r swydd fwyaf gwerth chweil yn y byd !”

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi a pham?

Fel cefnogwr pêl-fasged, cefais fy ysbrydoli gan Michael Jordan. Mae ei benderfyniad, ei egni, a’i feddylfryd enillydd yn fy ngwthio i fod y person gorau y gallaf fod.

Gwyliais i ffilm tua 8 mlynedd yn ôl o’r enw Glory Road. Lleolir y ffilm yn Texas yn y 80au. Sôn am ysgol i bobl gwyn mae’r ffilm, sy’n llogi prif hyfforddwr gwyn newydd, ac mae’r prif hyfforddwr gwyn hwn yn dod o hyd i chwaraewyr pêl-fasged du ac mae e’n dod yn aelod o’r tîm coleg. Mae’r mae’n dangos y ffordd y mae’r tîm hwn yn cael ei drin, gyda phobl yn gweiddi arnynt, sgrechian arnynt, eu curo, gyda dyfarniadau rhagfarnllyd oll yn digwydd achos eu bod yn Ddu. Mae hyd yn oed yr hyfforddwr gwyn yn dioddef gan fod chwaraewyr du gyda fe ar ei dîm. Mae’n cael ei aflonyddu, a’i gam-drin, mae ei swydd dan fygythiad ac mae ei gartref yn cael ei fandaleiddio. Ond mae’n dyfalbarhau gyda’i dîm achos taw hwythau yw’r chwaraewyr gorau, er gwaethaf lliw eu crwyn.

Newidiodd y ffilm honno fy meddwl a’r ffordd ‘rwy’n gweld y byd yn llwyr, sut bydda i’n trin pobl a’r hyn y byddaf yn ei wneud i helpu eraill a chynnwys pawb. Cyfrannodd y ffilm hon yn fawr at y person yr ydwyf heddiw.


Edris Kizito

Fy enw i yw Edris, ac rydw i’n Ddiffoddwr Tân yng Ngorsaf Dân ac Achub Duffryn.

Rwy’n Ddiffoddwr Tân cymwys, ar ôl pasio fy nghyfnod datblygu 2 flynedd fis diwethaf. Mae’r yrfa newydd mor gyffrous, mae llawer o gyfleoedd newydd a phethau i’w dysgu i gyd at ddiben gwasanaethu’r bobl yn ein cymunedau.

Ymunais â’r gwasanaeth tân 12 mlynedd yn ôl ac o’r blaen bues i’n gweithio yn yr adran Gyllid fel cynorthwyydd Caffael, ac yna fel dechnegydd CADD yn yr adran Diogelwch Tân Busnes

Prydeiniwr Affricanaidd ydw i a chefais fy ngeni yn Uganda, Dwyrain Affrica.

 

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi a pham?

Nelson Mandela: – Ei hydwythedd dyfal a’i allu i gymodi. Hyd yn oed ar ôl brwydr hir greulon a phoenus dros gyfiawnder a thegwch o dan apartheid a arweiniodd at 27 o flynyddoedd o garchar yn y pen draw, parhaodd gyda’r achos a galwodd am heddwch ac undod yn hytrach na dial.


Jenifer Li

Helo, Rwy’n Swyddog AD yn yr adran Cysylltiadau Gweithwyr a dechreuais yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Hydref 2019. Rwy’n mwynhau gweithio o fewn Adnoddau Dynol ac mae’n faes sy’n esblygu’n gyson ac yn cwmpasu nifer o swyddogaethau – o recriwtio, absenoldeb a phresenoldeb i ddatblygu sefydliadol wrth adeiladu ymdeimlad a chydweithio’n agos ag adrannau eraill. Cyn hyn, ro’n i’n Swyddog Cyflogres yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, felly mae newid rôl a dod i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi caniatáu i mi ennill cipolwg ar agwedd wahanol o AD.

O ran y sefydliad ei hun, mae’r hyn a wna, ei weledigaeth a’i werthoedd craidd yr un mor bwysig i mi â’r rôl swydd, felly er nad ydw i yn y rheng flaen yn taclo tanau neu sefyllfaoedd brys yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rwy’n gwybod fy mod yn cyfrannu’n anuniongyrchol yn y cefndir wrth ‘wneud De Cymru’n ddiogelach wrth leihau risg’. Mae cwmni ond cystal â’r gweithwyr sy’n gweithio iddo, felly mae rôl AD wrth atynnu, datblygu a chadw staff yn bwysig i sicrhau y cyflawnir yr amcanion o wasanaethu’r cymunedau lleol.

Beth sy’n amlwg yw’r amgylchedd cynhwysol o fewn GTADC a’r diwylliant o ymgysylltu sefydliadol y profais yn y Pencadlys ers i mi fod yma. Rwyf wedi teimlo’n gartrefol ac yn teimlo fy mod yn gall cyfranogi a chyflawni fy mhotensial o fewn fy rôl. Bu cyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau. Rwyf wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Cymorth Cyntaf, hyfforddiant hydwythedd a sgiliau Excel estynedig. Anogir cyfathrebu agored ac mae mynediad at sianelau sy’n cynnig llais i’r gweithiwr. Er enghraifft, mae fforwm Shout yn ffordd dda i bawb rhannu syniadau. Mae ffocws ar les gweithwyr ac mae nifer o fentrau sy’n cefnogi hwn – polisiau sy’n ystyriol o deuluoedd, rhaglenni ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, cyfleoedd elusennol, gwirfoddoli a chodi arian ac ‘awr y gampfa’ i enw ond ychydig. Mae hyn oll yn dangos ymroddiad real i mi gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n buddsoddi yn ei staff.

Dim ond proffesiynoldeb a chydbarchu a brofais o fewn y Gwasanaeth ac mae hefyd perthynas gwirioneddol o fewn y Tîm CG. Mae’n adran hynod brysur, ond mae hwn wedi’n hysgogi ni i weithio’n ddi-asiad fel tîm ac i chwilio am ffyrdd o wella a symleiddio prosesau mewnol. Ar y cyfan, mae e wedi bod yn brofiad cadarnhaol ar lefel broffesiynol a phersonol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ystod y 9 mis ers i mi fod yma.