Gwasanaethodd Kirsty fel Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed am 22 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gadeirydd nifer o bwyllgorau allweddol gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Safonau Ymddygiad. Yn 2011, hi oedd y fenyw gyntaf i arwain un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.

 

Hi hefyd oedd yr un cyntaf ar y fainc gefn a lwyddodd i gyflwyno Bil Aelod Preifat yn y Senedd, a arweiniodd at Gymru yn dod y wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staffio ar gyfer nyrsys mewn wardiau ysbytai.

 

Rhwng 2016 a 2021, bu’n gwasanaethu fel Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, ac arweiniodd ymgyrch genedlaethol i ddiwygio addysg – sef yr ymgyrch fwyaf a ddigwyddodd ers datganoli.

 

Ymddeolodd o wleidyddiaeth rheng flaen yn 2021 ac ers hynny mae wedi ymroi i gadeirio prosiectau sy’n ymwneud ag addysg ac adfywio economaidd. Rhwng 2022 a 2024 bu’n aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Ar hyn o bryd hi yw Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

Mae Kirsty’n byw ar y fferm deuluol ger Bannau Brycheiniog ac mae hi’n wirfoddolwraig frwd gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen ac elusen iechyd meddwl leol.