Rydym yn ffyddiog os gall menyw “gweld esiampl dda, y gall hi fod llawn cystal ei hun”. Gan mai menywod yw’r grŵp sydd wedi cael ei dangynrychioli fwyaf o fewn ein Gwasanaeth, un o’n prif nodau yw creu gweithlu lle mae’r holl fenywod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial, a’u gwerthfawrogi cymaint ag unrhywun arall o ran eu sgiliau, eu harbenigedd, eu hydwythedd, eu gwybodaeth a’u cyfraniadau, fel rhan o #TimDeCymru.

Abi Naci
Cynorthwydd Caffael i Dalu.
Wedi’i Lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth Llantrisant

Cyn ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, do’n i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, gan fod y mwyafrif o bobl yn gyffredinol yn meddwl fod y Gwasanaeth i ddynion yn unig. Ond, ers dechrau gweithio yn y Pencadlys, roedd hi’n amlwg nad hyn oedd yr achos a bod menywod yn chwarae rhan bwysig yng ngweinyddiad dyddiol y Gwasanaeth. 

Wedi i mi adael yr ysgol, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio cyn gynted â phosib, felly pan welais yr hysbyseb am Brentisiaeth o fewn GTADC, meddyliais y byddai’n opsiwn perffaith. Nid yn unig ro’n i’n dysgu llawer o sgiliau newydd, ond roedd modd i mi ennill arian yr un pryd. Roedd y Brentisiaeth hon yn arbennig o apelgar i mi gan fod y Gwasanaeth yn sefydliad sector cyhoeddus sy’n uchel ei barch, ac ro’n i eisiau dysgu mwy am ei rôl o fewn y gymuned.

Wedi i mi fod yn llwyddiannus yn y broses ddethol, dechreuais weithio o fewn yr Adran Gyfrifon lle dysgais bwrpas arian mân, bancio ac anfonebu cwsmeriaid ac ati. Ers hynny, sicrheais rôl o fewn adran Gaffael y Gwasanaeth, lle dysgais am osod archebion ar ran y Gwasanaeth a thalu anfonebau i gyflenwyr, sydd wedi bod yn hynod bleserus.

Yn ychwanegol i ddysgu am fy rôl, ces gyfle i ddysgu mwy am rolau eraill o fewn y Gwasanaeth, megis Ymladdwyr Tân a staff Rheoli Tân. Ces gyfle i gymryd rhan mewn diwrnod adeiladu tîm  “Ymladdwr Tân am Ddydd”. Roedd hwn yn brofiad da oherwydd fe wnaethom roi cynnig ar abseilio, gwyliasom arddangosfa a oedd yn dangos y technegau a ddefnyddir wrth dynnu pobl sy’n gaeth yn eu cerbydau, profwyd yr offer hydrolig a gwnaethpwyd cyfres o brofion yn y ganolfan Offer Anadlu (OA) gan gynnwys gwisgo’r offer OA a rhoi cynnig ar y “caets cropian”.

Hefyd yn ystod fy nghyfnod anwytho, ces gyfle i eistedd mewn car wrth i griw tân fy nhorri i a chydweithiwr i mi yn rhydd. Ymwelais â’n hystafell Rheoli Tân ym Mhont-y-clun hefyd, lle buom yn gwrando ar alwadau hyfforddi blaenorol.

Roedd bob un o’r profiadau hyn yn hwyl, ond hefyd, fe wnaethant agor fy llygaid i’r tasgau y mae’n rhaid i Ymladdwyr Tân a staff Rheoli eu cyflawni’n ddyddiol i warchod y gymuned, ac fe wnaeth hyn fy helpu i ddeall sut mae fy rôl i’n chwarae rhan ym mhopeth a gyflawnir o fewn y Gwasanaeth.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn sefydliad da iawn i weithio iddo ac mae’r bobl wedi bod yn gyfeillgar a chroesawgar ers y diwrnod y dechreuais. Mae yna deimlad o ysbryd tîm ac mae pawb wastad yn barod i helpu. Am y rhesymau hyn, byddwn yn cymeradwyo y dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa o fewn y Gwasanaeth ei ddilyn, oherwydd o’m mhrofiad personol innau, ceisio am y swydd hon oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud. Hefyd, hoffwn ddweud y dylai unrhyw fenyw sydd â diddordeb mewn ymgeisio wneud hynny’n bendant, a pheidio ag ildio i’r stigma mai byd i ddynion yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Amy Jenkins
Rheolwr Cadetiaid Tan
Wedi’i Lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth Llantrisant

Amy Jenkins ydw i. Ar hyn o bryd, Rheolwr Cadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Roeddwn i’n gwybod pan adawais yr ysgol nad oeddwn eisiau mynd i’r Brifysgol na’r coleg. Roeddwn bob am

Clywais am y sefydliad drwy ffrind i’r teulu, a awgrymodd fod y gwasanaeth yn chwilio am siaradwr Cymraeg i’r dderbynfa. Doeddwn i’n gwybod ar y pryd ond dyma ddechrau taith anhygoel i mi!

Roeddwn yn llwyddiannus yn y cyfweliad, ac roedd fy nhaith wedi cychwyn. Yn ystod fy amser yn y dderbynfa, roeddwn i’n dod i ddeall pob is-adran o fewn y Gwasanaeth.

Sylwais cyn hir fod y sefydliad yn hysbysebu prentisiaethau ar y fewnrwyd. Cyflwynais geisiadau ar gyfer yr holl swyddi gweinyddol a llwyddais i gael cyfweld ar gyfer tair allan o bedair ohonynt. ‘Roeddwn wrth fy modd, un cam yn nes. Nodwyd pob cyfweliad, yn ogystal â phob cynllun prentisiaeth y gwnes i gais amdano. Yn y cyfweliadau, llwyddais mewn un yn unig. Llwyddiannus yn y swydd Prentisiaeth Ddiogelwch Cymunedol sef y Brentisiaeth Ddiogelwch Cymunedol cyntaf OLL.

Ar ôl i mi gwblhau yr elfennau modiwlaidd a theori’r Cynllun Prentisiaeth, mynegais ddiddordeb wedyn yn rôl y Cydgysylltydd Addysg. Byddai hon yn cyflenwi ar gyfer cyfnod mamolaeth dros dro am flwyddyn. Fe’i gwelais fel cyfle datblygu. Llwyddais i gael y swydd hon a’i chyflawni yn yr un ffordd ag y byddwn i’n gwneud swydd barhaol. Gweithiais ar fy liwt fy hun gan arwain ar lawer o wahanol brosiectau a chynlluniau ymyrraeth tymor byr megis ‘Sioe Deithiol Bernie’. Mwynheais fy mhrofiad yn yr adran hon yn fawr ac roedd yn fy ngalluogi i ddatblygu perthynas gwaith gwell gyda Gorsafoedd, Partneriaid a Gwasanaethau Tân ac Achub eraill.

Roedd y swydd hon wedi fy mharatoi ar gyfer fy llwyddiant diweddaraf….

Ar ôl i ddeiliad y swydd ddychwelyd, cyflwynais gais ar gyfer swydd Rheolwr y Cadetiaid Tân. Roedd y broses yn gystadleuol iawn ac roedd y cyfweliad yn anoddach o lawer o ganlyniad i radd y rôl. Yn ffodus, roeddwn i wedi cael llawer o brofiad o gyfweld ar y lefel hon, ac yr oeddwn i’n hynod o falch i glywed fy mod wedi llwyddo cael swydd Rheolwr Cadetiaid Tân. Hwn oedd fy swydd barhaol gyntaf o fewn y sefydliad ac roeddwn wrth fy modd gyda rôl fy hun i’w datblygu a’i chyflawni.

Flwyddyn a phum mis yn ddiweddarach rwy’n mwynhau’r amgylchedd gwaith sy’n newid yn barhaus yn fawr. Rwyf wedi datblygu menter tymor byr mewn carchar yn cynnwys cymhwyster, trefnu digwyddiadau yn ogystal â chynnal digwyddiad codi arian i Gadetiaid De Cymru yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud. Rwy’n dal i ddatblygu fy hunanhyder, sgiliau cyfathrebu, cydberthnasau gwaith, sgiliau rhyngbersonol a sgiliau arwain.

 

 

 

Chloe Pullen
Rheolwr Criw, Gwylfa Wen. Yr Adran Reoli Tan.

Fy enw i yw Chloe ac rwyf wedi bod yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) am bron i 8 mlynedd. Mae fy nhad hefyd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, felly ces fy nghodi gyda’r Gwasanaeth ac mae’n amgylchedd yr oeddwn wastad eisiau bod yn rhan ohono.

Ro’n i wastad eisiau bod yn Ymladdwr Tân ond rwy’n wan iawn fy stumog, felly roedd yn rhaid i mi gyfaddef fy methiant pan adewais y coleg a phan roedd hi’n amser i gael gwaith. Dyna pryd canfyddais y gallwn weithio yn yr ystafell Reoli Tân, yn dal i helpu pobl a dal yn rhan o ddigwyddiadau a oedd yn helpu a chefnogi’r cyhoedd.

Dysgais cymaint yn ystod yr 8 mlynedd ddiwethaf. Rwyf wedi cyflawni lefel 3 NVQ, wedi ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf mewn Trawma, wedi cwblhau fy nghymhwyster Iechyd a Diogelwch ac wedi cyflawni nifer o gyrsiau rheoli sy’n fy helpu yn fy rôl fel Rheolwr Criw.

Ers dechrau yn yr Ystafell Reoli Tân, cefais ddau o blant a ches fy nghefnogi yn ystod fy nghyfnodau mamolaeth gan y sefydliad, sydd ag ystod dda iawn o bolisïau mamolaeth, tadolaeth a pholisïau sy’n addas i’r teulu. Ymladdwr Tân yw fy ngŵr, felly mae ein gwaith shifft yn gwneud gofal plant yn fwy hylaw. Er gall shifftiau nos fod yn waith caled gyda phlant bach iawn, maen nhw’n caniatáu i fi fod gartref mwy yn ystod y dydd, sy’n bwysig i ni fel teulu.

Yn gweithio o fewn fy rôl gyfredol, rwyf wrth fy modd yn gwybod mod i’n helpu’r gymuned ac yn cefnogi Ymladdwyr Tân rheng flaen i amddiffyn y cyhoedd. Mae e’n gwneud i mi deimlo’n falch iawn mod i’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Clare Amor
Ymladdwr Tan Ar Alwad a Llawn Amser

 

Ers yn ifanc ro’n i wastad eisiau bod yn Ymladdwr Tân, ond o ganlyniad i lwybr gyrfa gwahanol, priodi a chael plant, ni wnes ei ddilyn tan yn hwyrach yn fy mywyd. Yn 37 oed, newidiodd fy mywyd a phenderfynais wneud cais i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac roeddwn yn llwyddiannus i ymuno â’r tîm fel Ymladdwr Tân Gweithredol a leolwyd yng Ngorsaf Cas-gwent.

Ces i’r hyfforddiant yn eithaf heriol, ond gyda lefel ffitrwydd cymharol, roedd yn hynod o hwylus, yn dysgu sgiliau newydd o fewn strwythur disgybledig. Wedi ymuno â’r Orsaf, ffurfiais gyswllt agos â gweddill yr wylfa, yn mwynhau amrywiaeth gwahanol rannau o fywyd, gwaith ac arferion yr orsaf. Canfyddais fod llawer mwy na dim ond ateb galwadau argyfwng, sef y prif reswm pam yr ymunais. Mae’r swydd a’r boddhad personol yn dilyn achubiad llwyddiannus o dân, gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd neu ddigwyddiad arall wastad yno ac, fel criw, rydych chi wir yn teimlo eich bod wedi gwneud gwahaniaeth. Mae diogelwch cymunedol a gwaith ataliol yn ffurfio rhan fawr o fywyd yr orsaf ac rwy’n canfod fy mod i’n mwynhau hwn cymaint â mynychu galwadau brys, ac er nad yw’n llawn adrenalin, mae’r boddhad o helpu pobl o bob math o alwedigaeth yno ar bob adeg.

Wrth symud ymlaen, mae fy swydd fel Ymladdwr Tân yn esblygu o hyd a bellach mae fy ngorsaf yn mynychu galwadau Ymateb Meddygol Cyntaf mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Ambiwlans fel rhan o arbrawf cenedlaethol. Rhoddodd hwn heriau newydd i mi a’r Wylfa gyda chanlyniadau hynod wobrwyol.

Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn mwynhau’r swydd cymaint nawr â phan yr ymunais gyntaf. Rwy’n hoffi gweithio fel rhan o dîm hynod agos o fewn tîm mwy Tân ac Achub De Cymru.

Karen Levett
Ymladdwr Tan System Ddyletswydd Gyflawn (SDdG),
Gorsaf Tan Ac Achub Penarth

Helo, Karen ydw i ac fe ddes i’n Ymladdwr Tân 11 mlynedd yn ôl a dyma un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed. Yn flaenorol, bues i’n gweithio i Gwmni Corfforaethol mawr ac er i mi fwynhau fy swydd, doedd e ddim yn fy modloni’n llwyr.  Roedd rhywbeth ar goll!  Roeddwn i wastad eisiau bod yn Ymladdwr Tân, ond doedd gen i ddim o’r hyder i ymgeisio, ond nawr gallaf ddweud yn onest y dylwn fod wedi ei wneud ynghynt.

Mae bod yn Ymladdwr Tân y System Ddyletswydd Gyflawn (SDdG) lawer mwy na dim ond ymladd tanau.  Mae fy swydd yn amrywio o ddydd i ddydd yn cynnwys torri pobl allan o geir, achub anifeiliaid, cynnal achubiadau dŵr a chychod, addysgu plant ysgol ynghylch diogelwch tân ac ymweld â phobl a’u cynghori sut i gadw’n ddiogel yn eu cartrefi ac, wrth gwrs, ymladd tanau!  Dyma ychydig yn unig o’r rolau a gynhelir gennym.

Mae e ynghylch gweithio’n agos fel tîm a dyna beth â’m hatynnodd i ddod yn Ymladdwr Tân.  Cyn hir, darganfyddais fod pawb ar yr wylfa’n dod â chryfderau eu hunain, felly pan fyddwn yn cydweithio, rydym yn tynnu’r gorau o’n gilydd. Gan mai fi yw’r unig ferch ar fy ngwylfa, efallai nad fi yw’r cryfaf yn gorfforol, ond rwy’n gryfach mewn meysydd eraill a dwi’n rhan o’r tîm.

Felly, os ydych chi’n hoff o weithio mewn tîm, ac eisiau swydd sy’n cynnig sialensiau dyddiol ac amrywiaeth, yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â helpu plant ac oedolion yn y gymuned….. heriwch eich hunain a dewch yn Ymladdwr Tân.  Ni fyddwch yn edrych nôl byth!

 

Jodie Hobbs
Gweithredydd Desg Gwasanaethu TGCh
Wedi’i Lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth Llantrisant
 

Fy enw i yw Jodie a dechreuais weithio i Wasanaeth Tân ac Achub (GTADC) yn ddeunaw oed ac rwyf wedi bod yma am bron i bum mlynedd. Rwy’n gweithio o fewn yr Adran TGCh fel Gweithredydd Desg Gwasanaethu TGCh. Fy rôl yw bod yn fan cyswllt cyntaf i unrhyw un o fewn y Gwasanaeth sydd angen adrodd problem TGCh a chynnig help gydag unrhyw gwestiynau. Dyma yw fy rôl wedi bod ers dechrau â’r Gwasanaeth ac rwyf wir yn mwynhau fy ngwaith. Mae’r swydd wedi caniatáu i mi ddatblygu nifer o sgiliau ac rwyf wedi cwrdd â phobl sydd wedi cael effaith bositif ar fy mywyd personol a’m gyrfa.

Ro’n i’n gyffrous i ddechrau gan nad oeddwn yn gwybod unrhyw beth am y Gwasanaeth Tân. Ro’n i’ edrych ymlaen at bennod newydd mewn bywyd ar ôl gadael ysgol a phenderfynu gweithio a pheidio parhau â’m haddysg. Wyth mis i mewn i beth oedd yn wreiddiol yn gytundeb 6 mis, penderfynwyd bod angen i’r rôl gael ei llenwi’n barhaol, ac roedd hyn yn golygu cais a chyfweliad. Ro’n i’n teimlo cefnogaeth ac anogaeth lwyr yn ystod y cyfnod hwn gan fod cynifer o’m cydweithwyr wedi sôn wrtha i am ymgeisio ac wedi cynnig cyngor i mi. Diolch byth ro’n i’n llwyddiannus yn y broses ac enillais y swydd yn barhaol.

Yn ystod fy amser yma, rwyf wedi gallu datblygu nifer o sgiliau i’m helpu yn y dyfodol ac wedi ymestyn fy ngwybodaeth o TGCh a’r byd gwaith yn gyffredinol. Rwyf wedi bod yn rhan o nifer o newidiadau a ddigwyddodd o fewn TGCh i’r Gwasanaeth, gan fod pethau’n newid yn barhaus ac rwyf wedi gallu dysgu ar bob adeg, hyd yn oed os nad wyf ynghlwm yn uniongyrchol. Mae bod yn rhan o dîm mor fawr yn caniatáu i chi gwrdd â chymaint o bobl sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad.

Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn gefnogol iawn yn ystod fy siwrne ac yn cynnig cyngor ac anogaeth i mi i ddatblygu’n gyson. Mae gan y Gwasanaeth nifer o gyfleoedd i unrhyw un sydd naill ai eisiau datblygu o fewn yr adran lle maent neu hyd yn oed cymryd llwybr gwahanol.

I mi, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn le anhygoel i weithio, ac fel yr unig swydd rwyf wedi’i chael, ni allwn fod wedi gofyn am le mwy twymgalon a chyfeillgar i weithio. Mae cymaint o gyfleoedd, p’un ai swyddi swyddfa neu weithredol, ac mae help wastad wrth law os ydych chi’n edrych i ddatblygu neu newid eich cwrs. Rwy’n teimlo bod fy rôl yn wobrwyol tu hwnt, yn gwybod fy mod yn chwarae rhan wrth helpu eraill, p’un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae unrhyw rôl yma’n helpu gwneud gwahaniaeth er lles.

 

Michelle Deasy
Adran Gyllid a Chaffael
Wedi’i Lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth Llantrisant

Fy enw i yw Michelle. Ymunais â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gyntaf yn 2010 fel myfyriwr israddedig yn yr Adran Gyllid a Chaffael, lle gweithiais am flwyddyn fel rhan o’m cwrs Prifysgol.  Yna ces i waith rhan-amser yn yr adran Gaffael wrth i mi gwblhau fy ngradd, a oedd yn fy helpu i roi ar waith yr hyn yr oeddwn yn ei dysgu yn y Brifysgol.  Ar ôl ychydig o amser i ffwrdd o’r Gwasanaeth, ail-ymunais yn 2015 gyda’r tîm Caffael unwaith eto ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny!

 

Ers i mi ail-ymuno rwyf wedi gweithio mewn rolau amrywiol o fewn y tîm Caffael lle rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau amrywiol i’w defnyddio gan GTADC.  Mae rhan o hyn yn cynnwys gwneud tendrau ar ran y Gwasanaeth felly rwy’n gweithio’n agos gydag adrannau a chyflenwyr eraill i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei brynu yn cwrdd ag anghenion y Gwasanaeth. Gall tendrau fod ar gyfer unrhyw beth sydd ei angen arnom gan gynnwys Cynnal a Chadw Adeiladau, Cyfarpar Ffitrwydd a Chyrsiau Hyfforddi felly mae’r swydd bob amser yn amrywiol!  Rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd i symud ymlaen a gweithio mewn gwahanol dimau ers dychwelyd ac rwy’n gweithio yn y Storfeydd ar hyn o bryd, lle rydym yn cadw ac yn dyrannu gwisgoedd, OAP ac offer gweithredol ymhlith pethau eraill i Orsafoedd ac adrannau eraill.

 

Rwy’n mwynhau gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan fod pawb yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn barod bob amser i helpu gyda’r gwaith!  ‘Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth yn fawr ac mae pob dydd yn wahanol felly mae her newydd bob amser.

 

Natalie Pearce
Cyd-Reoli Tan

Ymunais â’r gwasanaeth tân ym 1998 ar ôl yr uno, ond cyn cyfuniad tair ystafell rheoli Caerdydd, Gwent a Morgannwg Ganol yn Llantrisant.  Hyfforddais i fod yn athrawes ysgol uwchradd a chymerais y swydd dros dro i lenwi cyfnod mamolaeth wrth i mi barhau i chwilio am rôl ddysgu. Cyn gynted ag ymunais i, roeddwn wrth fy modd â’r swydd ac ni wnes i feddwl am ddychwelyd i ddysgu.

 

Rwyf wir wedi mwynhau fy ngyrfa hyd yn hyn – mae’r cyflymder yn chwim a’r gwaith mor amrywiol. Mae modd i chi gynllunio eich dydd a gall hwn newid ar amrantiad o ganlyniad i weithgarwch digwyddiadau a gofynion galwadau.

 

Rwyf wedi gweithio mewn pedwar o wahanol safleoedd rheoli ers ymuno ym 1998 ac wedi gweithio ar bum system danfon wahanol gan ddau wahanol gyflenwr.  Gweithiais ar y prosiect i gyflwyno Airwave, felly rwyf wedi defnyddio dau gynllun radio gwahanol gyda thrydydd ar y gorwel cyn bydd fy ngyrfa’n dod i ben. Mae’r systemau radio a danfon yn ganolog i waith rheoli, ac mae’r amserlenni cynllunio, gweithredu a hyfforddi’n heriol tu hwnt gan eu bod yn newid cymaint o ganlyniad i’w cymhlethdod.  Rwy’n mwynhau’r heriau datrys problemau a gyflwynwyd gan hyn a’r cyfle i fod yn dysgu’n barhaus.  Mae datblygiadau technolegol a’r ysgogiad i weithio’n fwy effeithlon a chydweithredol wedi creu gyrfa ddiddorol.  Wedi i un newid gael ei gyflwyno, rydym yn edrych at y datblygiad nesaf.

 

Rwy’n hoffi amrywiaeth ac mae cyflymder newid a’r angen cyson i uwchraddio systemau wedi fy nghadw’n brysur ac wedi rhoi cyfleoedd gwych i mi weithio ar brosiectau gwahanol.  Cefais fy secondio i Lundain am 18 mis i weithio ar brosiect FiReControl ac fe ddysgodd hyn lawer i mi am brofi a chwilio am ffyrdd newydd o weithio a symleiddio prosesau.  Wrth ddychwelyd i Dde Cymru, cyfranogais ym mhrosiect Airwave a gweithiais â Llywodraeth Cymru a’r Cyd-Grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru i gyflwyno DEIT – Trosglwyddiad Gwybodaeth Electronic Uniongyrchol, sydd bellach yn hysbys fel MAIT.  Rwy’n hynod falch o’r gwaith a ymgymerwyd gan yr Adran Reoli wrth gadw rheoli yng Nghymru ar flaen y gad o ran technoleg ac rwy’n credu ein bod yn geffylau blaen ymhlith adrannau rheoli’r DU!

 

Er bod hyn oll yn gyffrous, daeth heriau law yn llaw â’r cyflymdra.  Roeddwn i eisiau i gyflwyniad Airwave orffen cyn i mi ddechrau cael teulu, gan ro’n i eisiau gweld diwedd i’r prosiect.  Gohiriwyd y prosiect, felly rwy’n hŷn nag oeddwn i’n amau y byddwn cyn dechrau cael fy mhlant. Gall yr oriau hir a oedd yn ofynnol i oruchwylio newid a’r ymroddiad ar alwad fod yn her gyda theulu ifanc ac mae llawer o waith jyglo i hwyluso hyn ac nid yw fy nheulu’n gweld llawer ohono i o ganlyniad i hyn. Roedd e’n arbennig o heriol pan roedd fy nhad a fy nhadcu yn eu gwaeledd olaf ac fe wnaeth hyn gyd-daro â’r symudiad rheoli diweddaraf. Rwyf mor ffodus y bu fy mam a’m gŵr mor gefnogol i ganiatáu i mi ddilyn fy ngyrfa, teithio o amgylch i gyfarfodydd tra mae’r ddau’n dygymod ag ochr materion cartref fy mywyd.  Mae’r swydd yn hynod feichus ond mae wedi dysgu i mi gadw ffiniau a gofalu am fy hun.  Mae hwn yn rhywbeth mae’r Gwasanaeth yn ei annog a’i gefnogi.

 

Mae’r swydd hefyd wedi caniatáu i mi barhau i hyfforddi a dysgu.  Rwyf wedi astudio am ddiploma a thystysgrif mewn rheolaeth tân ac mae fy nghymwysterau dysgu a’m gradd wedi fy helpu i gynnal hyfforddiant, ysgrifennu adroddiadau a gwneud cyflwyniadau.  Ar un adeg, fe wnes i hyd yn oed feddu ar gymhwyster hyfforddi codi a chario.  Nid wyf yn gwybod beth fydd fy her nesaf.  Rwyf wedi ysgrifennu bwrdd stori ar gyfer fideo a chymryd rhan mewn digwyddiadau fel sioe Llanelwedd, penwythnos y Gwasanaethau Brys a ffeiriau gyrfaoedd. Nid dim ond ar gyfer cymryd galwadau ac ateb y radio yn unig yw Rheoli – os ydych chi’n hyderus ac yn barod i roi cynnig ar unrhyw beth, mae modd i chi gael gyrfa amrywiol iawn.

 

Rwy’n mwynhau’r ethos tîm o weithio gyda’n gilydd i ddatrys problemau a datrys digwyddiadau.  Cymuned fechan yw’r Gwasanaeth Tân mewn gwirionedd, felly rydych chi’n cwrdd â’r un bobl drwy’r amser o fewn y teulu tân ac ar draws y gwasanaethau brys a llywodraethau lleol, ac mae modd i chi adeiladu perthnasau gwaith da sy’n gweithio’n well pan fyddwn o dan bwysau.  Roedd Stormydd Dennis a Jorge’n enghreifftiau diweddar lle’r oedd y pwysau yn ddwys, ond daeth y gymuned frys ynghyd i gadw’n cymunedau’n ddiogel. Mae’r bobl rwyf wedi cydweithio â hwy oll wedi bod yn hynod gefnogol ac â chanolbwynt i gyflawni’r nod.

 

Bu’n fraint i mi weithio drwy rai o’r digwyddiadau mwyaf proffil uchel fel y Cwpan Ryder, Uwch Gynhadledd NATO a’r Gemau Olympaidd – adegau unwaith mewn gyrfa – ac nawr mae’r pandemig Coronfeirws wedi cyflwyno heriau gwahanol.  Storm Dennis oedd yr her fwyaf hyd yn hyn gan fod y distryw a swmp anferth y galwadau mor anodd.  Wedi profi llifogydd ddwy waith fy hun, roedd fy nghalon yn gwaedu dros y galwyr gan wybod cymaint o waith fydd o’u blaenau dros y misoedd sy’n dod.  Mae e wir wedi bod yn 22 flynedd ddi-stop mor belled gyda 18 arall i ddod.

 

Daeth Covid â chyfnod o fyfyrio ac rwyf wedi mwynhau peidio â theithio i’r gwaith a chael mwy o amser i fy nheulu a minnau. Efallai y dof ychydig yn iachach gyda’r amser ychwanegol sydd gennyf ar hyn o bryd a bydd hwnnw’n beth da.  Mae’n bwysig cael cydbwysedd gwaith a thîm ardderchog.