Y Farwnes Wilcox o Gasnewydd – Deborah Wilcox

Mae gan y Fonesig Wilcox fwy na 35 mlynedd o brofiad mewn addysg rheng flaen, ar ôl dysgu yn Brixton yn Ne Llundain i gychwyn, daeth yn bennaeth drama ac astudiaethau’r cyfryngau yn Ysgol Uwchradd Hartridge yng Nghasnewydd. Wedyn buodd hi’n bennaeth cyfadran y celfyddydau perfformio a’r tîm uwch reolwyr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Pontypridd. Gweithiodd hefyd fel arholwr allanol ar Fyrddau Arholi CBAC ac AQA am fwy na 25 mlynedd ac uwch arholwr ar gyfer Astudiaethau Theatr Safon Uwch.

 

Yn 2004 cyfunodd ei rôl gwasanaeth cyhoeddus fel athrawes â rôl cynghorydd lleol, gan ennill sedd Ward Gaer ar Gyngor Dinas Casnewydd. Wedyn enillodd dri etholiad arall yn 2008, 2012 a 2017. Buodd yn Gadeirydd Grŵp Llafur y Cyngor i ddechrau, yna daeth yn Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant yn 2012, gan ddatblygu’r cwmni di-elw “Newport Live”, sydd erbyn hyn yn cynnal gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn y ddinas. Yn 2014 cyrhaeddodd hi bortffolio mwyaf yr Arweinydd ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Plant, pan roddodd y Fonesig Wilcox y gorau i’w swydd ddysgu amser llawn.

 

Yn 2016 y Cynghorydd Debbie Wilcox oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn ymddeoliad ei rhagflaenydd, ac ym mis Mai 2017 arweiniodd ei grŵp i fuddugoliaeth trwy ennill 31 o 50 sedd gyda Chyngor Casnewydd.

 

Ym mis Mehefin 2017, hi oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef y corff sy’n cynrychioli holl gynghorau Cymru. Bu hefyd yn cynrychioli Cymru fel aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) yn Llundain.

 

Bu’n gwasanaethu ar gyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Gaer ac Ysgol John Frost yng Nghasnewydd am bymtheng mlynedd. Hi oedd Cadeirydd Casnewydd yn Un, y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, a chyn hynny bu’n gwasanaethu am ddau dymor fel aelod annibynnol o Gyngor Celfyddydau Cymru drwy broses gystadleuaeth agored.

 

Yn 2018 cafodd ei gwahodd i fod yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

 

Yn Rhestr Anrhydeddau Ymddiswyddiad Theresa May 2019, dyrchafwyd y Cynghorydd Wilcox i Dŷ’r Arglwyddi. Ym mis Mawrth 2020 penodwyd y Fonesig Wilcox yn Chwip yr Wrthblaid ac ymunodd â thîm llywodraeth leol yn Nhŷ’r Arglwyddi ac ym mis Medi 2020 penodwyd y Fonesig Wilcox yn Llefarydd yr Wrthblaid dros Fenywod a Chydraddoldeb fel rhan o dîm Mainc Flaen yr Arglwyddi. Ym mis Mawrth 2021 fe’i penodwyd yn Llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru ac yn Chwip Addysg ym Mainc Flaen yr Wrthblaid ac ar hyn o bryd mae’n cynnal y ddwy rôl.

 

Cafodd ei phenodi’n Gomisiynydd i’r Comisiwn Addysg Gydol Oes ac mae’n Is-Gadeirydd Grŵp Hollbleidiol Seneddol (APPG) Porth y Gorllewin gan gysylltu wyth Cyngor o Abertawe â Swindon ym maes datblygu economaidd.

Hi yw Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Cyngor Drama, Dawns a Theatr Gerddorol (CDMT) sef y corff ar gyfer sicrhau ansawdd a chefnogaeth aelodaeth yn y celfyddydau perfformio.

 

Ym mis Tachwedd 2023 dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth Brifysgol Teesside o ganlyniad i’w gwaith gyda Chomisiwn 2070 y DU a’r Gymanwlad yn cyflawni cenadaethau twf economaidd rhwng Cymru, Glannau Tees a De Affrica.