Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Cydraddoldeb yn ymwneud â phobl ac mae Amrywiaeth yn ymwneud â gwerth – mae mor syml â hynny. Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym yn cydnabod mai taith barhaus yw gwir gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Fe’ch gwahoddir i ddarllen ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-25, sy’n cyflwyno ein canlyniadau cydraddoldeb strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Bydd y canlyniadau’n cael eu cynnwys yn yr hyn a wnawn, gyda phob gweithred gorfforaethol yn gysylltiedig ag o leiaf un ohonynt. Mae hyn yn ein galluogi i fonitro gwelliannau’n gywir yn ogystal â chynyddu ein gwasanaeth i’n holl gymunedau.
Sylwch: Dyma’r DRAFFT TERFYNOL. Ar ôl i sefyllfa Coronavirus fynd heibio, bydd ein Awdurdod Tân ac Achub yn gallu ei adolygu a’i fabwysiadu. Ar ôl i hynny ddigwydd, bydd y FERSIWN TERFYNOL yn cael ei lanlwytho (gyda newidiadau, os o gwbl).
Cewch ddarllen cynllun cydraddoldeb strategol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 2020-25 isod:
Os ydych chi am gael golwg ar sut wnaethon ni yn 2018/19 wrth fodloni ein gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a Dyletswyddau Penodol Cymru, darllenwch ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2018-2019.
Rydym yn angerddol ynghylch:
Grwpiau penodol yn dioddef ymosodiadau, bwlio ac yn cael eu hamddifadu rhag cyfleoedd am iddynt gael eu canfod i fod yn ‘llai’ o ran oed, rhyw, anabledd, rhywogaeth, acen, lliw croen, neu eu hanwylon.
Pwrpas Deddfwriaeth Gydraddoldeb yw mynd i’r afael â’r materion hyn a, gan ein bod ni’n Wasanaeth a ariennir gan y cyhoedd, rydym yn gweithio’n galed i gydymffurfio â, a rhagori ar y gofynion cyfreithiol hyn.
Rydym yn cydnabod bod y gymuned gyffredinol yr ydym yn ei gwasanaethu yn gyfoethog ac yn amrywiol ac rydym yn ymroddedig i gwrdd ag anghenion gwahanol a chyrraedd yr un safonau uchel ar gyfer pawb gan gydnabod nad yw pawb yr un fath. Un o’r ffyrdd orau i ni wneud hyn yw sicrhau bod y bobl orau oll, o’n gymuned amrywiol yn gweithio i ni.
O’r dudalen hon ceir dolenni i:
Diwrnodau Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig
Corff cyhoeddus yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae’n hanfodol bwysig i ni ein bod yn gwneud ein gorau glas dros bob un ohonoch.
Rydym yn gweithredu fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau ill dau, yn unol â Deddfau Cydraddoldeb (Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswyddau Penodol Cymreig, ac ati).
O’r dudalen hon ceir y dolenni canlynol:
Adran Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru