Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn ddigwyddiad byd-eang. Themâu’r DU ar gyfer y Diwrnod yw: gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i les a bywydau dynion a bechgyn, hyrwyddo sgwrs gadarnhaol am ddynion, dyndod a gwrywdod. I ddathlu’r diwrnod, rydym yn cynnwys rhai o’r dynion yn y Gwasanaeth.

Tom McCarthy

Diffoddwr Tân Dyletswydd Gyflawn yng Ngorsaf yr Eglwys Newydd. Mae wedi gweithio gyda GTADC ers 13 o flynyddoedd.

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi? Mark Colbourne 

Newidiodd ei fywyd yn llwyr gan oresgyn damwain wrth baragleidio a thorri ei gefn. Aeth ymlaen i ennill medal aur yn Llundain yn 2012 mewn beicio dan do a thorri record y byd ddwywaith. Yn fy marn i mae e’n ysbrydoliaeth bur gan ei fod yn dangos bod unrhywbeth yn bosib o gael ffydd a’r deheuad i wneud eich gorau glas er gwaethaf eich amgylchiadau.

Beth mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn ei olygu i mi? 

Mae hwn yn gyfle i ddathlu’r dynion yn ein bywydau a’r cyfraniadau y maent yn eu gwneud i gymdeithas. Mae hefyd yn gyfle i hyrwyddo iechyd corfforol ac iechyd meddwl, gan annog dynion i fod yn fwy agored a chefnogi ei gilydd.

Sut mae gwella cydberthnasau rhwng dynion a menywod?

Mae byw mewn cymuned amrywiol a gweithio mewn gweithlu s’n gynyddol amrywiol yn gyffrous a dylid ei ddathlu! Dylem sylwi ar sgiliau a phriodoleddau pobl fel unigolion a dysgu oddi wrth ei gilydd, er mwyn gwella.

Awgrymiadau Iechyd a lles i ddynion eraill 

Ar ôl cael triniaeth ar gyfer canser y ceilliau yn 2011, deallais o’r profiad hwnnw nad yw salwch yn gwahaniaethu, felly gwiriwch, gwiriwch a gwiriwch eto i weld os oes unrhyw broblemau neu newidiadau yn y corff a pheidiwch â bod ofn siarad. Gallai cael sgwrs achub bywyd!

Mae ymarfer corff rheolaidd a diet cytbwys yn bwysig i iechyd corfforol ac iechyd meddwl ill dau. Ewch allan pryd bynnag y gallwch, gwnewch y profiad yn un cymdeithasol a gosodwch nodau i chi’ch hun, hyd yn oed os taw dim ond rhedeg i ben y ffordd yw e!

 

Huw Evans

Tîm Peiriannydd gyda’r Tîm Rhaglenni TGCh sy wedi gweithio gyda GTADC ers dros ddeng mlynedd.

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi? – Bear Grylls

Dyma ddyfyniad o “To My Sons”: “Ceisiwch fyw bywyd gwyllt, hael, llawn a chyffrous, gan ddod â bendithion i bawb o’ch cwmpas a gweld daioni ym mhob un”.

Beth mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn ei olygu i mi? 

Mae e’n dathlu positifrwydd dynion a’r hyn y mae dynion yn ei ddwyn i’r byd.

Sut mae gwella cydberthnasau rhwng dynion a menywod?

Mae angen i bob un weithio gyda’n gilydd ym mhob sefyllfa, heb dalu sylw i labeli neu eiriau poblogaidd cyfredol.

Awgrymiadau Iechyd a lles i ddynion eraill 

Mynnwch gydbwysedd priodol rhwng y gwaith a’r cartref – mae’r ddau yr un mor bwysig mewn bywyd ond rhaid cael y cydbwysedd iawn.

 

Wayne Thomas

Pennaeth Perfformiad a Chyfathrebiadau’r Gwasanaeth ers dros dair blynedd ar ddeg.

Pa ddyn sy’n eich ysbrydoli chi? – Barack Obama

Roedd Barack Obama yn arweinydd a oedd bob amser yn hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch a heddwch yn gyhoeddus gydag angerdd. Roedd e bob amser i’w weld yn agored i heriau wrth ymdrechu i newid ac roedd e’n dangos tosturi ac urddas wrth ymdrin â phobl.

Beth mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn ei olygu i mi

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn ddiwrnod i werthfawrogi enghreifftiau cadarnhaol o rôl dynion yn ein bywydau yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r heriau a wynebir gan ddynion ledled y byd.

Sut mae gwella cydberthnasau rhwng dynion a menywod yn eich barn chi?

Dylem barhau i godi ymwybyddiaeth o’r heriau amrywiol a wynebir gan bobl o bob rhyw o fewn ein cymdeithas, gan annog a galluogi deialog adeiladol mewn perthynas â’r materion hyn.

Awgrymiadau Iechyd a Lles i ddynion eraill

Fy mhrif gyngor fyddai annog pobl i siarad am unrhyw bwysau, pryderon neu faterion a ddaw i’w rhan. Mae pobl bob amser yn awyddus i helpu.