Rheolau Cyfryngau Cymdeithasol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynal nifer o dudalennau a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Mae ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwysig i ni ymgysylltu â’r cyhoedd ac mae eich adborth, eich sylwadau a’ch cefnogaeth yn parhau i fod yn eithriadol o bwysig i ni. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod chi’n deall, wrth ein dilyn yn wirfoddol neu’n hoffi ein tudalennau ac ymgysylltu a rhyngweithio â’i gynnwys ac o bosibl cynnwys ymwelwyr eraill, eich bod chi’n cytuno i gadw at y rheolau sylfaenol sydd ar waith gennym. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol.

Telerau ac Amodau Cyfryngau Cymdeithasol

Cyn ymgysylltu ag unrhyw dudalen neu sianel gyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sicrhewch eich bod yn cydymffurfio’n llawn â thelerau ac amodau defnyddio’r dudalen neu’r sianel benodol honno gan gynnwys cyfyngiadau oedran: Gweler yr enghraifft ganlynol:

Argyfyngau

  • Os ydych chi’n adrodd argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Peidiwch ag adrodd argyfwng ar neu drwy ein tudalennau na sianeli cyfryngau cymdeithasol a pheidiwch â chysylltu â ni drwy negeseuon uniongyrchol. Nid yw ein tudalennau a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro 24/7.

Ymddygiad

  • Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn atebol am unrhyw sylwadau cyhoeddus ar ein tudalennau. Dyma sylwadau a barn yr unigolyn sydd wedi gosod y neges ac ni ddylid eu priodoli i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
  • Bydd swyddi neu negeseuon y gellir eu hystyried yn aflan, yn dramgwyddus neu’n gythruddol neu unrhyw gynnwys arall sy’n achosi sarhau neu’n aflonyddu’r cyhoedd, neu aelod staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn cael eu dileu heb esboniad.
  • Wrth ymgysylltu â’n tudalennau, rhaid i aelodau o’r cyhoedd barhau i fod yn gwrtais ac yn barchus i eraill bob amser.
  • Gellir rhwystro negeseuon neu bostiadau o gyfrifon ffug neu gan y rhai sy’n mabwysiadu enwau ffug i gamarwain y Gwasanaeth yn fwriadol.
  • Ni chaniateir sbam na hysbysebion ar unrhyw adeg a byddant yn cael eu dileu.

Monitro a negeseua

  • Mae GTADC yn cymedroli ac yn diweddaru’r cyfrif hwn yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Iau, 09:00 – 17:00 o’r gloch a dydd Gwener 09:00 – 16:00 o’r gloch.
  • Gellir trefnu rhai negeseuon ymlaen llaw.
  • Nid yw GTADC yn ymrwymo i ymateb i sylwadau unigol nac i gymryd rhan mewn dadleuon ar-lein.
  • Os oes gennych gwestiwn nad yw’n argyfwng, byddai’n well anfon neges atom er mwyn i ni allu ymateb cyn gynted â phosibl.

Cwynion

  • Os hoffech i ni drafod mater personol neu os hoffech wneud cwyn, gofynnwn i chi ymatal rhag gosod neges ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Yn lle, defnyddiwch y sianeli cywir i’n galluogi i ymateb yn briodol a chyn gynted â phosibl. Cysylltwch â ni drwy www.decymru-tan.gov.uk/cysylltu-a-ni/

Mae gennym hawl i addasu neu newid y rheolau hyn ar unrhyw adeg.