Cynllun Strategol 2020–2030: Diweddariad Blwyddyn 5

Darllenwch Diweddariad Blwyddyn Pump o’n Cynllun Strategol 2020-2030.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein cynnydd wrth gyflawni y cynllun strategol gan darparu diweddariad blwyddyn pump sy’n egluro sut rydym yn bwriadu parhau i gyflawni gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion ein cymunedau.

Mae ein Gweledigaeth yn parhau’n ffocws allweddol i ni; “Gwneud De Cymru’n ddiogelach wrth leihau risg”.

Mae’r cynllun yn amlinellu ein bwriadau cyffredinol ar gyfer 2020-2030 yn seiliedig ar gyflawni, neu weithio tuag at gyflawni ein hamcanion. Mae’r cynllun hefyd yn nodi’r datblygiadau diweddaraf o ran cynnydd yn ein gweithgarwch yn ystod y pumed flynedd gyntaf yn ogystal â nodi camau manylach ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r cynllun yn egluro ein hymrwymiadau ariannol mewn perthynas â setliadau Awdurdod Lleol ac yn adnabod lle rydym yn bwriadu ddyrannu gwariant. Mae e’n nodi beth rydym yn bwriadu gwneud, â phwy fyddwn yn cydweithio, sut rydym yn cynllunio i’w cyflwyno a pham y credwn ei fod yn bwysig.

Croesewir eich adborth a’ch barn am y cynllun hwn naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio, drwy law e-bost neu ysgrifennu gan ein bod yn chwilio’n barhaus am ffyrdd i’ch cynnwys chi ac ymgysylltu â chi i gael eich syniadau am ffyrdd i wella.