Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Lansiwyd Diwrnod Hawliau’r Gymraeg ar y 6ed o Ragfyr 2019 ac mae erbyn hyn yn ddigwyddiad Blynyddol. Diben y digwyddiad hwn yw bod sefydliadau hyrwyddo’r Gwasanaethau Cymraeg y maent yn eu darparu a rhoi gwybod i bobl am eu hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.  Ydym wedi cyhoeddi rhestr o hawliau er mwyn i’n defnyddwyr gwasanaethau wybod bod hawl ganddynt drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hyn hoffem weld mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau yn Gymraeg.

Datblygwyd hawliau’r Gymraeg o Safonau’r Gymraeg.  Ewch i’n tudalen Safonau’r Gymraeg i gael mwy o wybodaeth.

“Bellach mae dros 120 o sefydliadau yn gweithredu safonau’r Gymraeg, sy’n golygu fod gan y cyhoedd hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw.  Rydym yn falch fod sefydliadau megis Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi manteisio ar y cyfle heddiw i hyrwyddo’r hawliau ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg.  Gadewch i ni, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, wneud y mwyaf o’r hawliau hyn a dewis y Gymraeg.”

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

 

Gyda ni, mae gennych chi hawl i…

  1. Dogfennau yn Gymraeg
  2. Gwefannau yn Gymraeg
  3. Gwneud cais am swydd yn Gymraeg
  4. Llythyrau ac e-bost yn Gymraeg
  5. Ffurflenni yn Gymraeg
  6. Negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
  7. Arwyddion yn Gymraeg
  8. Defnyddio’r Gymraeg mewn derbynfa
  9. Defnyddio’r Gymraeg ar y ffôn

 

Dyma rai o’r hawliau. Am restr lawn ac union fanylion eich hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i wefan Comisiynydd y Gymraeg.