Ein gweledigaeth: “gwneud De Cymru’n Fwy Diogel Wrth Leihau Risg”

Er gwaethaf heriau ariannol sylweddol, rydym ni’n cydnabod y gallwn ond sicrhau cymunedau mwy diogel trwy herio a gwella’r ffordd rydym ni’n gweithio, trwy weithlu diogel a chymwys, a thrwy reoli ein hadnoddau’n well. Felly, rydym ni bob amser yn agored i newid, a bob amser yn ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd newydd, gwell i ddiogelu cymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.

Mae ein hymrwymiad i herio a gwella’r ffordd rydym ni’n gweithio wedi’i amlygu yn ein Cynllun Strategol a’n Cynlluniau Gwella, ac, o dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae gofyn iddynt gael eu cynhyrchu mewn dau gam:

CAM 1 Y CYNLLUN – Ein Cynllun Strategol 2020-2030

Mae hyn yn edrych ymlaen ac yn cael ei gynhyrchu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol ac yn nodi’r gweithgareddau rydyn ni’n bwriadu ymgymryd â nhw o fis Ebrill ymlaen er mwyn sicrhau gwelliant.

Mae hyn yn nodi ein hymrwymiad i gymunedau De Cymru am y deng mlynedd nesaf. Mae’n un cynllun strategol sy’n ymgorffori’r heriau cymunedol a sefydliadol tymor hwy (Themâu Strategol), ac mae angen gwelliannau gwasanaeth tymor byr (Amcanion) i gefnogi ac ategu ein ffocws tymor hwy.

Cynllun Strategol 2020-2030

CAM 2 Y CYNLLUN – Cynllun Gwella Blynyddol

Mae’n rhoi diweddariad blynyddol ynghylch sut gwnaethom berfformio a beth a gyflawnom yn y flwyddyn flaenorol (a ddaeth i ben 31 Mawrth), ynghyd â beth rydym ni’n bwriadu ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf (a fydd yn dechrau 1 Ebrill). Rhaid ei gyhoeddi ar 31 Hydref, neu cyn hynny, bob blwyddyn.

Cynllun Gwella Blynyddol