Ar ôl ennill gradd mewn hanes modern ym Mhrifysgol Bangor yn 1981, ymunodd Vij â Brigâd Dân Llundain yn 1983. Gwasanaethodd yn rhai o orsafoedd prysuraf y brifddinas, gan gynnwys Brixton fel diffoddwr tân a Whitechapel fel rheolwr gwylfa.

 

Yn dilyn cyfnod yn datblygu swyddogion yn y ganolfan hyfforddi, cafodd ei ddyrchafu i swydd yn y pencadlys o fewn y tîm gweithrediadau canolog cyn cymryd rôl fel rheolwr grŵp yn ne Llundain. Ym 1998 fe’i dyrchafwyd i swydd Rheolwr Ardal (SDO), Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Nottingham.

 

Yn 2000, dyrchafwyd Vij yn Brif Swyddog Tân dros dro (DCFO) yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, gan ddod yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân dair blynedd yn ddiweddarach, a Phrif Swyddog Tân (CFO) yn 2009 – swydd a ddaliodd tan ddiwedd 2013. Yn 2007, dyfarnwyd OBE iddo.

 

Bryd hynny buodd hefyd yn rhan o dîm arlywyddol Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA), sef rhagflaenydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân. Roedd hefyd yn gadeirydd bwrdd llywodraethwyr Coleg Metropolitan Birmingham, sy’n sefydliad addysg bellach mawr iawn. Yn 2010, daeth yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

 

Ar ôl ymddeol buodd yn is-gadeirydd ysbyty GIG Merched a Phlant Birmingham (BWC) ac yn is-gadeirydd Cymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus gan wasanaethu fel cymrawd. Mae erbyn hyn yn gwasanaethu ar fwrdd ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Dudley fel aelod anweithredol, cadeirydd cwmni rheoli cyfleusterau Ysbyty Merched a Phlant Birmingham, is-gadeirydd Prifysgol Aston, ac mae’n cadeirio un o bwyllgorau atal ac amddiffyn rhag llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd.