Swyddi gwag diweddaraf
Gweithio gyda ni
I gael gwybodaeth am y mathau o rolau sydd ar gael a buddion gweithio yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, edrychwch ar ein tudalen gweithio gyda ni.
Darllenwch ein datganiad preifatrwydd recriwtio.
Rhestrir yr holl swyddi gwag cyfredol isod.
Rydym yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar-Alwad. Ewch i’n tudalen recriwtio am fwy o wybodaeth Gellir anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi at Y Tîm Recriwtio ac Adnoddau, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Pencadlys Llantrisant, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, RCT, CF72 8LX neu eu hanfon trwy e-bost at recruitment@southwales-fire.gov.uk
Ffurflen Gais Ymladdwr Tân Ar Alwad
Parhaol: 37 Awr yr wythnos
Cyflog: £34,723 – £35,411
Lleoliad: Pencadlys, Llantrisant
GWNEWCH CAIS YMA
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12yp ddydd Llun 3 Ebrill 2023.
Cytundeb am Flwyddyn: 37 Awr yr wythnos
Cyflog: £21,575 – £21,968
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12yp ddydd Mercher 5 Ebrill 2023.
Cyflog: £30,151 – £32,020
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12yp ddydd Iau 13 Ebrill 2023.
Mae’r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith neu’r llall. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.
Anogir ymgeiswyr sy’n dymuno newid eu hiaith ddewisol er mwyn cyfathrebu â ni i wneud hynny ar unrhyw adeg yn ystod y broses Recriwtio.
I fynegi eich dewis iaith, a fyddech gystal â defnyddio’r manylion isod.
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy law e-bost neu lythyr gyda’r post yn y lle cyntaf er mwyn sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosib yn mynychu’r Pencadlys.
Sicrhewch eich bod chi’n rhoi stampiau digonol ar gyfer maint a phwysau’ch Cais ac yn gadael amser ychwanegol gan fod y gwasanaethau post dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd.
Er mwyn diogelu ein Staff a’r sawl sy’n Ymgeisio am Swyddi, rydym wedi addasu ein prosesau Recriwtio, a byddwn ni’n defnyddio e-byst, Galwadau Ffôn, y Rhyngrwyd a Chyswllt Fideo i gyfathrebu â’n hymgeiswyr, cynnal Cyfweliadau ac Asesiadau a chynnal ein Gwiriadau Cyn Cyflogi. Rhoddir diweddariadau mewn perthynas â chynnydd eu Ceisiadau yn ystod y camau llunio Rhestr Fer, Dethol, a Chyn Cyflogi.
I gael gwybodaeth bellach cyfeiriwch at y dudalen COVID19.
Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd a’ch cydweithredu yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.
Y Tîm Recriwtio ac Adnoddau.
Cyfeiriad: Y Tîm Recriwtio ac Adnoddau, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, CF72 8LX
Ffôn: 01443 232200 e-bost: personel@decymru-tan.gov.uk