Rydym yn cyflogi mwy na 1,700 o bobl i gyflawni ein gwasanaethau ar draws deg ardal Awdurdod Unedol, felly os ydych yn rhannu ein brwdfrydedd a’n hymroddiad, edrychwch ar ein swyddi gwag diweddaraf.  

Firefighter Role

Ymladdwr Tân Llawn Amser

Ymladdwr Tân Llawn Amser

Ydych chi o ddifrif ynghylch diogelwch tân ac yn gallu arddangos y sgiliau sy’n berthnasol i fod yn ymladdwr tân o’r oes fodern?  Darllenwch fwy...

Ymladdwr Tân Llawn Amser rhestr

  • Ymateb i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd
  • Ymateb i arllwysiadau cemegol
  • Ymateb i achubiadau anifeiliaid
  • Hyfforddiant parhaus ar hyd eich gyrfa
  • Wedi’ch lleoli yn yr orsaf adeg sifftiau
  • Cynnal ffitrwydd a phwysau iach ar hyd eich gyrfa
  • Cyflwyno negeseuon diogelwch tân i ysgolion
  • Glanhau a chynnal offer
  • Cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu a denu, ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio Ymladdwyr Tân
Darganfyddwch fwy
Ymladdwr Tân ar Alwad

Ymladdwr Tân ar Alwad

Mae Ymladdwyr Tân ar Alwad yn rhan hanfodol o Wasanaeth Tân ac Achub heddiw.

Ymladdwr Tân ar Alwad rhestr

  • Yn byw o fewn cymuned leol yr orsaf (yn sgil amserau ymateb)
  • Ymateb i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd
  • Ymateb i arllwysiadau cemegol
  • Mynychu sesiwn dril wythnosol
  • Ymateb i achubiadau anifeiliaid
  • Hyfforddiant parhaus ar hyd eich gyrfa
  • Cynnal ffitrwydd a phwysau iach ar hyd eich gyrfa
  • Cyflwyno negeseuon diogelwch tân i ysgolion
  • Glanhau a chynnal offer
  • Cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu a denu, ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio Ymladdwyr Tân
Darganfyddwch fwy

Diffoddwyr Tân Llawn Amser, Diffoddwyr Tân Ar-Alwad, Staff yr Ystafell Reoli, Staff Cynnal ac Diffoddwyr Tân Cynorthwyol; rydym oll yn un o ran ein hymroddiad i gadw cymunedau De Cymru’n ddiogelach.

Rydym yn awyddus i ddenu pobl sydd yr un mor ymroddedig felly os hoffech chi ymuno â ni edrychwch ar ein rhestr o Swyddi Gwag Diweddaraf i weld y cyfleoedd diweddaraf sydd ar gael gyda ni.

Gweler yma restr o’n Gorsafoedd Tân ac Achub Llawn Amser ac Ar-Alwad.

Rydym hefyd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn nifer o ein gorsafoedd ar ddraws De Cymru. Gallwch ymweld ag ein Tudalen Diffoddwyr Tân Ar-Alwad ar gyfer mwy o wybodaeth neu gallwch gwblhau’r ffurflen mynegi barn ar ein Tudalen Yr Un Sgiliau, Rolau Gwahanol.

Datganiad Preifatrwydd Recriwtio