Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021

Gall bywyd fod yn anodd iawn weithiau, bydd 1 o bob 4 o bobl yn dioddef gan salwch iechyd meddwl yn ystod eu hoes.

Nododd arolwg Mind* yn ddiweddar fod 69% o ymatebwyr brys wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers dechrau’r pandemig. * Tu ôl i’r Masg – dan arweiniad Mind

Cofiwch – mae help a chefnogaeth ar gael, gan gynnwys siarad â ffrindiau, y teulu a chydweithwyr o bell neu dwry gadw pellter cymdeithasol, neu trwy gysylltu â gweithwyr proffesiynol hyfforddedig.

Os oes angen cefnogaeth arnoch neu os ydych chi eisiau darllen mwy, edrychwch ar y canlynol neu cysylltwch â nhw: 

  • Mind – Rhaglen Golau Glas – yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r gwasanaethau brys. Y llinell gymorth gyfrinachol yw 0300 303 5999
  • Our Frontline – bydd yn darparu cefnogaeth emosiynol 24/7 i weithwyr Gwasanaethau Brys a Rheng Flaen trwy alwad neu neges destun 85258 FRONTLINE unrhyw bryd neu ffoniwch 0800 069 6222 rhwng 7am ac 11pm
  • Y Samariaid – beth bynnag yw eich profiadau heriol, mae’r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24 awr – ffoniwch 116 123

Awgrymiadau defnyddiol

Cadwch olwg ar sut rydych chi’n teimlo a chwiliwch am syniadau ar gyfer pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu’ch hunan i ymdopi, teimlo’n well ac i gadw’n ddiogel mewn argyfwng. – Mae Ap Hunangymorth y Samariaid ar gael nawr – https://selfhelp.samaritans.org/

Cymerwch 5 cam i wella eich iechyd meddwl a’ch lles, gan GIG

  1. Cysylltwch â phobl eraill
  2. Byddwch yn gorfforol egnïol
  3. Dysgwch sgiliau newydd
  4. Rhowch i eraill
  5. Rhowch sylw i’r foment bresennol