Mae ein tîm gwirfoddolwyr gwych yn cynnwys pobl o gefndiroedd amrywiol, gyda sgiliau, galluoedd a phrofiadau gwahanol.

Os byddwch chi’n gwirfoddoli gyda ni a byddwch chi’n gweithio gyda’n timau arbenigol i helpu cyflwyno negeseuon diogelwch allweddol y Gwasanaeth. Bydd e’n brofiad gwerth chweil, gyda chyfle i gwrdd â phobl newydd a mynd i’r afael â heriau newydd. Bydd y wybodaeth gymunedol leol y gallwch chi ei darparu yn cyfoethogi ac yn ategu rôl y Gwasanaeth wrth ateb anghenion ein cymunedau. Gallwch chi helpu gwneud De Cymru yn ddiogelach i bawb.

 

Y cyfan a ofynnwn gennych chi yw eich bod chi ar gael am isafswm awgrymedig o bedair i chwe awr y mis, a’ch bod chi’n fodlon helpu am o leiaf chwe mis. Mae’r rhan fwyaf o’n gweithgarwch gwirfoddoli yn digwydd yn ystod oriau gwaith arferol, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd. Bydd hyn yn newid wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen gyda mwy o gyfleoedd yn codi.

 

Nid ydym yn recriwtio gwirfoddolwyr newydd ar hyn o bryd. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech chi roi eich enw ar ein rhestr aros, cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr:

Cyfeiriad e-bost: GwirfoddolwyrGTADC@decymru-tan.gov.uk

Rhif ffôn: 07747 564376

Gwnewch gais ar-lein i ddod yn Wirfoddolwr.

Datganiad Preifatrwydd Recriwtio