Diffoddwr Tân y System Ddyletswydd Llawn Amser

Mwy Na Thân

Ydych chi o ddifrif ynghylch diogelwch tân ac yn gallu arddangos y sgiliau sy’n berthnasol i fod yn Diffoddwr Tân o’r oes fodern?  Darllenwch fwy…

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae rôl Diffoddwr Tân wedi addasu i adlewyrchu hyn, a chwrdd â gofynion y gymuned leol.

Mae Diffoddwr Tân y dyddiau hyn yn dal i gyflawni’r dyletswyddau traddoddiadol wrth ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd ac argyfyngau naturiol eraill. Fodd bynnag, mae Diffoddwr Tân y dyddiau hyn hefyd yn gallu newid o gyflawni’r rôl ymatebol hon i rôl fwy atalion yn ymwneud ag addysgu’n cymunedau.

Mae’n ofynnol i Ddiffoddwr Tân allu cyfathrebu â phob grwp o fewn y gymuned yn enwedig a rhai sy’n ‘agored i niwed’ fel yr henoed a phlant. Yn ogystal â chyfathrebu ar lafar, cynnal arddangosfeydd a chyflwyniadau, mae ein Diffoddwr Tân yn ymweld â’r bobl rydym yn gwasanaethu gartref, gan gynnal ymweliad Diogelwch a Lles yn aml, i sicrhau eu bod yn deall sut i gadw eu hunain yn ddiogel rhag tân a beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a hysbysebir pob ymgyrch System Ddyletswydd Gyflawn ar y dudalen hon.

 

Profion Dethol Corfforol ac Ymarferol i Ddiffoddwr Tân

Gwyliwch yr holl Brofion Corfforol ac Ymarferol yn y rhestr chwarae isod:

Ymweld i’n Tudalen Swyddi Wag Diweddaraf.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200.

Rydym yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad mewn nifer o ein gorsafoedd ar draws De Cymru. Darganfyddwch fwy am y rôl a gweld os ydych eich gorsaf leol yn recriwtio trwy ymweld â’n Tudalen Diffoddwyr Tân Ar Alwad.