Rydym yn falch o berthyn i Raglen Prentisiaeth Cymru, sy’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i brentisiaid ddatblygu sgiliau a phrofiadau sy’n berthnasol i’r gwaith, ac ennill cymhwyster. Mae’r cynllun hefyd yn caniatau i brentisiaid chwarae rôl bwysig mewn helpu ni i wasanaethu ein cymunedau.

Bydd y cynllun prentisiaeth yn rhoi cyfle i chi wneud y canlynol:
  • Ennill profiad gyda chyflogwr sydd ag enw da, mewn sefydliad mawr
  • Datblygu sgiliau cysylltiedig â gwaith fydd yn cynyddu eich posibiliadau o ran cyflogaeth yn y dyfodol
  • Cyflawni Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, a chymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 i ddilyn
Mae buddion y brentisiaeth hon yn cynnwys:
  • Mynediad at ein cyfleusterau campfa ar y safle.
  • Mynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Parcio rhad ac am ddim yn ein maes parcio ar y safle
Ein hymroddiad

Rydym yn ymroddedig i’ch cynorthwyo i gamu ymlaen. Rydym yn cydnabod bod cychwyn swydd newydd yn gallu bod yn gyffrous a brawychus ill dau, a rhoddwyd pecyn cymorth mewn lle gennym i’ch cynorthwyo i ddod i’n nabod ac i deimlo’n hyderus yn eich gwaith.

O’r funud byddwch yn cychwyn, cewch wybod ein bod o ddifrif wrth ystyried eich lles:

  • Byddwch chi’n cael cyfnod ymsefydlu trylwyr, wedi’i ddylunio i’ch helpu chi ddeall a dod yn gyfarwydd â’n ffordd o weithio
  • Byddwch chi’n cael cynllun gwaith manwl, a fydd wedi cael ei lunio i sicrhau eich bod chi’n cael amrywiaeth o brofiadau gwaith gwerthfawr gyda ni
  • Bydd hyfforddwr yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn sicrhau eich bod chi’n cael yr holl gymorth sydd ei angen arnoch i allu perfformio’n effeithiol
  • Ar ddiwedd y cynllun dwy flynedd, byddwn ni’n rhoi arweiniad i chi ar ddod o hyd i waith, a chystadlu o fewn y broses recriwtio
Eich ymrwymiad

Mae gofyn i holl weithwyr y Gwasanaeth ddilyn a hyrwyddo Gwerthoedd Craidd y Gwasanaeth.

Sgiliau Iaith Cymraeg:

Rydym yn ymroddedig i allu cefnogi siaradwyr Cymraeg a darparu gwasanaethau o ansawdd dda drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith neu’r llall. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.

Gweithio gyda ni:

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymroddedig i wneud ein cymunedau’r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwy. I gyflawni hyn, gwyddwn fod angen i ni fuddsoddi i ddenu, cynnal a datblygu’r bobl orau ar gyfer pob swydd ar draws y sefydliad.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol. Rydym yn weithredol wrth annog ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio er mwyn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Nid oes gennym Gynllun Prentisiaeth Diffoddwyr Tân ar hyn o bryd, i gael gwybodaeth am rolau ein Swyddi Diffoddwyr Tân, ewch i.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200 neu cysylltwch a ni

 

Datganiad Preifatrwydd Recriwtio