Diffoddwr Tân ar Alwad
Diffoddwr Tân ar Alwad
Yn Ne Cymru, mae bron hanner o’n gweithlu gweithredol yn Diffoddwyr Tân Ar Alwad a leolir fel arfer o fewn cymunedau gwledig, mewn trefi bach a phentrefi.
Yn debyg i’r Diffoddwyr Tân System Ddyletswydd Gyflawn, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, ac argyfyngau naturiol eraill. Mae hefyd gofyn iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal ymweliadau Diogelwch a Lles mewn cartrefi pobl.
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn gweithio yn ôl System Ddyletswydd Ar Alwad a rhaid iddynt fyw neu weithio o fewn y gymuned Leol. Maent yn hanu o bob cefndir. Yn eu plith mae adeiladwyr, ymgynghorwyr, rhieni sy’n aros gartref, gweinyddwyr, gweithwyr ffatri, gofalwyr, myfyrwyr neu bobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Y rhain yw’r bobl sy’n gallu rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r Gwasanaethau Tân ac Achub gan ennill cyflog yr un pryd.
Mae’r holl Diffoddwyr Tân Ar Alwad â ‘rhybuddiwr’ bob amser tra eu bod ar ddyletswydd, fel bod modd iddynt ymateb i’w Gorsafoedd pan fydd angen, o fewn amser penodol o gael galwad. Gallant ymateb i alwadau brys o’u cartrefi yn ystod oriau hamdden neu, mewn rhai achosion, o’u gweithle os bydd eu cyflogwr yn caniatáu.
Gofynnir i bob Diffoddwyr Tân Ar Alwad ymroi i nifer penodol o oriau gweithredu a mynychu sesiwn hyfforddiant fin nos bob wythnos (sef noson ymarfer).
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a hysbysebir manylion pob ymgyrch recriwtio ar y dudalen hon.
Rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 17 a 6 mis oed ar ddyddiad y cais ac o leiaf 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân i fod yn gymwys.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn y gorsafoedd isod. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn pobl sy’n gallu ymroi oriau rhwng 9yb a 5yp, rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener.
Pen-y-bont ar Ogwr:
Mynydd Cynffig
Bro Ogwr
Pontycymer
Rhondda Cynon Taf:
Tonypandy
Gilfach Goch
Pontyclun
Pontypridd
Hirwaun
Abercynon
Aberdâr
Bro Morgannwg:
Y Bontfaen
Llanilltud Fawr
Y Barri
Caerffili:
Aberbargoed
Caerffili
Rhymni
Abercarn
Rhisga
Merthyr Tudful:
Merthyr Tudful
Treharris
Blaenau Gwent:
Tredegar
Abertyleri
Brynmawr
Torfaen:
Abersychan
Blaenafon
Sir Fynwy:
Y Fenni
Brynbuga
Casgwent
Cil-y-coed
Trefynwy
Llyfryn Asesiad gallu Diffoddwr Tân ar Alwad
Llyfryn Asesiad Corfforol ac Ymarferol Diffoddwr Tân ar Alwad
Gellir anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi at Recriwtio, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Pencadlys Llantrisant, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, RCT, CF72 8LX neu eu hanfon trwy e-bost at recruitment@southwales-fire.gov.uk
Yn unol â chanllawiau diogelwch cyfredol Covid-19 Llywodraeth Cymru, ni chaniateir ymweliadau â Gorsafoedd neu Ddigwyddiadau Recriwtio.
Yn lle hynny, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200 neu cysylltu â ni.
Neu darllenwch y wybodaeth ymgeisio uchod a’i chwblhau ac anfonwch y ffurflen gais atom.